Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/258

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

dwy ysgol yn y gymydogaeth; a dysgu darllen y geiriau yn gywir oedd bron yr unig amcan yn y dyddiau hyny." Mae y dystiolaeth hon wedi dyfod i lawr i ni trwy y moddion mwyaf tebyg i fod yn gredadwy. Ac eto y mae lle cryf i gasglu mai oddiwrth Mr. Charles ei hun trwy ryw ffordd y disgynodd yr hedyn i'r ardaloedd hyn. Yr oedd Edward Roberts, y pregethwr, yn bur debyg o fod yn gydnabyddus â'r hyn a gymerai le yn y Bala y blynyddoedd hyn. Y mae genym dystiolaeth bendant hefyd i eglwysi Trawsfynydd Ffestiniog argymell John Ellis, wedi hyny y Parch. John Ellis, Abermaw, i Mr. Charles, i fod yn un o ysgolfeistriaid yr ysgolion cylchynol, mor foreu a'r flwyddyn 1785. Y casgliad tebygol ydyw iddynt hwythau yn fuan wedi hyny ddyfod, trwy John Ellis neu Mr. Charles, i wybod rhywbeth am yr Ysgol Sul. Dywed yr hanes fod cangen ysgol arall wedi ei sefydlu yn Caeadda, oddeutu y flwyddyn 1790, yn y Penrhyn yr un flwyddyn, yn y Mur Mawr, tyddyn yn agos i Bandy'r- ddwyryd, oddeutu 1787, yn Llanfrothen a Ffestiniog yn 1796. A dyma y wybodaeth gywiraf ellir gael am ei dechreuad yn y cwmpasoedd hyn.

Y RHWYSTRAU A RODDID AR FFORDD YR YSGOL Sul

Mae yn anhawdd i ni yn yr oes hon gael syniad agos i gywir am y rhwystrau mawrion a gafodd y sefydliad yn ei ddechreuad, ac am gryn amser ar ol ei ddechreuad. Cyfodai y rhwystrau oddiwrth grefyddwyr lawn cymaint ag oddiwrth elynion crefydd. Hen bobl oedd corff proffeswyr crefydd ar y dechreu, a buwyd yn hir iawn cyn dyfod i roddi magwraeth briodol i'r ieuainc mewn gwybodaeth a chrefydd. Teimlai llawer o'r hen grefyddwyr yn gryf fod dysgu darllen ar y Sabbath yn doriad pendant o'r pedwerydd gorchymyn. Yr oedd y lleoedd i gynal yr ysgol yn y gwahanol ardaloedd yn hynod o anghyfleus, ac athrawon i addysgu yn nodedig o brin-