Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/259

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ion. Cynhelid ysgol Llanfrothen yn Hafotty, yn nghwr uchaf yr ardal. Yr oedd yno frawd crefyddol a chwaer grefyddol yn selog gyda hi ar ei chychwyniad, ond edrychai yr ardalwyr gyda llygad drwgdybus ar y newyddbeth a ddaethai i'w plith. Yr oedd yr enwog John Jones, o Ramoth, yn byw yn yr Hafotty ar y pryd, am y pared â'r lle y cynhelid yr Ysgol Sul, a llefarai yn arw ac yn chwerw wrth y cymydogion yn ei herbyn. Arferai ddweyd na buasai ond yr un peth ganddo ef eu gweled yn myned i'r maes gyda chaib a rhaw ar ddydd yr Arglwydd, a'u gweled yn cadw ysgol i ddysgu darllen ar y dydd hwnw. Bu ei ddylanwad ef fel gwr o safle uchel yn llawer o rwystr ar ffordd llwyddiant yr ysgol. Cyfarfyddwyd â rhwystrau cyffelyb yn Penrhyn. Er fod capel wedi ei adeiladu yn 1777, dair blynedd ar ddeg cyn dechreuad yr ysgol yn yr ardal, lluddiwyd iddi gael myned iddo, am ei fod yn rhy gysegredig iddi. Adroddai pawb ei chwedl, a gwnaent a allent i ddyrysu y gwaith da. Elai rhai mor bell a dweyd mai prif ddiben cefnogwyr yr ysgol oedd, cael y bechgyn i gyd yn soldiers, a'u hanfon i ffwrdd i ryfel, ac meddent, "Mae yn beth peryglus iawn, a dylem godi fel cymydogaeth yn ei herbyn!"

Y CYFARFOD MAWR AR FYNYDD MIGNEINT YN 1808.

Wedi oddeutu ugain mlynedd o ymladd yn erbyn rhwystrau, a dyfalbarhad gyda gwaith yr ysgol, y dechreuodd ei llwyddiant mawr, ac y daeth i gael ei chynal ymhob ardal trwy Gymru. Yn y flwyddyn 1808 yr oedd y Cymanfaoedd Ysgolion cyntaf mewn bri a gogoniant mawr. Cynhaliwyd y flwyddyn hono, os ydym yn cofio yn iawn, chwech o'r Cymanfaoedd hyn yn yr awyr-agored mewn gwahanol ranau o Gymru, Yn mis Hydref, yr un flwyddyn, cynhaliwyd Cymanfa nodedig iawn yn Mryncrug, gan y Parchn. Robert Jones, Rhoslan; Owen Jones, y Gelli; a William Hugh, Llanfihangel, y rhai oeddynt