Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/260

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn bresenol yn lle Mr. Charles, gan ei fod ef wedi methu cyflawni ei addewid oblegid afiechyd. Ymddengys fod ysgol gref a blodeuog iawn yn Ysbytty yr adeg yma, a deuai chwech neu wyth o'r brodyr selog yn achlysurol dros y mynydd i Ffestiniog (lle nad oedd yr ysgol eto ond bechan a diymgeledd), i hyfforddi mewn darllen, egwyddori, a chanu. Ac yn Sasiwn y Bala, Mehefin, 1808, cynlluniwyd i gadw Cyfarfod Ysgolion ar ben Mynydd Migneint, ar y Sabbath cyntaf yn Ngorphenaf. Yn ol y cynllun yr oedd y ddwy fintai i gyfarfod ar y mynydd -ysgol Ffestiniog i ddyfod at Tynewydd-y-mynydd, ac ysgol Ysbytty at gorlan y Muriau Gwynion. Aeth Robert Williams dros Ysbytty, ac O. T. Owen dros Ffestiniog, o flaen y lluoedd i chwilio am le cyfleus i gadw y Gynhadledd; a chafwyd man hynod briodol ar ben craig yn mhen y Fforddgoch, rhwng Tynewydd a'r Gorlan, ac yr oedd yno ffynon o ddwfr grisialaidd iddynt i'w yfed gyda'r tamaid bwyd oedd ganddynt yn eu llogellau. Arweiniwyd y ddwy fintai ymlaen-oll yn rhifo tua thri chant. Dechreuwyd y moddion am ddeg o'r gloch trwy ganu a gweddio, a chafwyd ysgol ddifyrus iawn, ar gopa y graig, yn mhen y mynyddoedd, dan heulwen desog Gorphenaf. Diweddwyd trwy adrodd amryw benodau gan ysgol Ysbytty. Wedi bwyta bara, ac yfed y dwfr grisialaidd, dechreuwyd eto trwy weddi nodedig a chynghorion buddiol gan yr hen athraw medrus, Evan Roberts, o'r Cyrtiau. Cafodd yn ei weddi oleu newydd ar y gair hwnw, "Duw y mynyddoedd yw yr Arglwydd, ac nid Duw y dyffrynoedd yw efe." Cafodd olwg helaethach na Benhadad ar ardderchowgrwydd Duw Israel. Gwaeddai gyda llais toddedig, ei fod yn Dduw pawb, ac yn Dduw y mynydd a'r dyffryn ar unwaith. Ar ei ol, pregethodd yr hybarch Edward Roberts, Tynant-y-beddau. Ar ol y bregeth, tua dau o'r gloch, dechreuwyd cadw ysgol eilwaith. Wedi mwynhau yr un hyfrydwch yn hon eto, ar ei diwedd canwyd anthemau o waith John Ellis, Llanrwst, ac yn