Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/262

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yr hyn a adnabyddid wedi hyny fel Ddosbarth Ffestiniog, oblegid nad oedd y lle olaf, yn amser yr ymdrafodaeth uchod, ond ardal ddinod a theneu ei phoblogaeth. Y dosbarth hwn oedd yr olaf o'r pedwar i ffurfio Cyfarfod Ysgolion; yr oedd Dosbarth y Ddwy Afon, lle y ffurfiwyd y Cyfarfod Ysgolion cyntaf, wedi ei ragflaenu er's tua phum' mlynedd. Ond cadwyd y cyfrifon yn fwy cyson a threfnus yma o'r cychwyn cyntaf nag yn un man arall, gan yr ysgrifenydd ffyddlawn Morris Llwyd, Cefngellewm. Yn yr anerchiad a gyhoeddwyd gan y Parch. Robert Parry, 25 mlynedd yn ol, ceir gwybodaeth am ddechreuad y Cyfarfod Ysgolion, ynghyd â chrynhodeb o'r cyfrifon, yr hyn sydd fel y canlyn:—"Yn nechreu y flwyddyn 1819, ymunodd yr amrywiol ysgolion gyda'u gilydd yn Ddosbarth. Y cyfarfod cyntaf a gynhaliwyd yn Ffestiniog, y 10fed o Ionawr, y flwyddyn hono. Mae gan yr ysgrifenydd goffadwriaeth o rifedi deiliaid yr ysgolion bob blwyddyn, er pan ffurfiwyd y Dosbarth hyd yr amser presenol (1865); ond rhag myned a gormod o le, heb ateb llawer o ddiben wrth roddi cyfrif pob blwyddyn ar ei ben ei hun, rhoddaf hwynt bob pum' mlynedd, a chyfrif y flwyddyn hon yn ychwanegol:—