Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/270

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

y bobl. Mewn bod yn effro a llygadog i ddeall arwyddion yr amseroedd, rhagorodd y tô diweddar o grefyddwyr ar grefydd- wyr cyntaf y wlad. Haner can' mlynedd yn ol, sef yn y flwyddyn 1840, pryd yr oedd poblogaeth plwyf Ffestiniog oddeutu 3000, nid ydym yn cael fod rhif yr holl wrandawyr gyda'r Methodistiaid yn cyraedd ond yn brin 800. Yn awr, pan roddir amcangyfrif y boblogaeth oddeutu 13,000, y mae rhif gwrandawyr y Methodistiaid, yn yr ystadegau diweddaf, yn ymyl 5000. Nid ydym yn meddwl wrth ddweyd hyn fod y Methodistiaid wedi gwneuthur yr oll a allasent, na'r oll a ddylasent ei wneuthur. Ond am y modd effro ac anturiaethus y dygwyd ymlaen y gorchwyl o adeiladu capelau newyddion, ac y ffurfiwyd eglwysi newyddion, i ateb i'r cynydd y naill flwyddyn ar ol y llall, nid oes ond canmoliaeth i'w roddi. Mae y symudiadau gyda hyn i'w gweled yn hanes pob eglwys ar ei phen ei hun. Cadwasant i fyny hefyd, i fesur mawr, y rheol Ysgrythyrol, trwy gynorthwyo y gwan mewn achosion o adeiladu capelau newyddion. Fel yr amlhaodd lliaws trigolion y fro, cryfhaodd teyrnas y Gwaredwr ymhlith pob enwad crefyddol, yn gyfatebol. Yr oedd yma nifer o hen frodorion yr ardal yn meddu "crefydd bur, a dihalogedig gerbron Duw a'r Tad," y rhai a roddasant eu delw, i raddau helaeth, ar y dieithriaid a'r dyfodiaid, a bendithiodd yr Arglwydd ymdrechion ei bobl, heb yr hyn ni buasid yn gweled y wedd lwyddianus a welir heddyw ar yr achos yn ei holl gysylltiadau. Dylid cadw mewn côf hefyd, ddarfod i'r Diwygiad 1859-1860, yr hwn a gymerodd le ar ddechreuad y cynydd mawr yn y boblogaeth, wneuthur daioni anrhaethadwy yn y rhan yma o'r wlad.

Y CYNYDD O FEWN DEUGAIN MLYNEDD.

Dengys y daflen ganlynol faint y cynydd, ymhlith y Methodistiaid Calfinaidd, o fewn cylch dosbarth Ffestiniog, yn