Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/269

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PENOD VIII.

NODIADAU YCHWANEGOL,

Y CYNWYSIAD.—Y Dosbarth yn cael ei gymharu â Dosbarthiadau eraill—Y cynydd o fewn deugain mlynedd—Y Teithiau Sabbothol—Y Gweinidogion a'r Pregethwyr—Y Gymdeithas Arianol—Yr Achos Dirwestol—Cyfarfod Dosbarth Ffestiniog.

 IAMEU mai yr hyn a dyna sylw y darllenydd oddiwrth hanes yr eglwysi yn y tudalenau blaenorol, yn gyntaf oll, ydyw y cynydd dirfawr sydd wedi bod ar achos crefydd yn Nosbarth Ffestiniog yn yr haner can' mlynedd diweddaf. Mae cynydd yr achos yn gyffredinol i'w briodoli i'r cynydd digyffelyb yn y boblogaeth, ynghyd âg i fendith yr Arglwydd ar ymdrechion ei bobl. Er mai yn y rhanbarth hwn y dechreuodd ac y gwreiddiodd Methodistiaeth gyntaf yn y rhan orllewinol o Sir Feirionydd, eto, bu tymor hir, pryd yr oedd rhanau eraill o'r wlad, megis eglwysi Dol- gellau, Dyffryn, Abermaw, Bryncrug, Bwlch, Corris, yn gryfach ac yn fwy blaenllaw. Ac nid oedd y dosbarth hwn fel y cyfryw ond rhyw ganlyn ar ol y dosbarthiadau eraill. Efe a gyfrifid y lleiaf o honynt. Ond fel y cerddodd yr amser, trodd olwynion Rhagluniaeth, a dylifai y bobloedd i ardaloedd Ffestiniog, nes y daeth yr ardaloedd hyn, oherwydd eu cryfder mewn rhif, yn gryfion hefyd i gario achos crefydd ymlaen. Diameu fod gwersi i'w dysgu oddiwrth y cyfnewidiadau mawrion a gymerasant le. Y mae yn bur eglur, pa fodd bynag, fod clod nid ychydig yn ddyledus i arweinwyr crefydd yn y parthau hyn, yn y blynyddoedd a basiodd, gan iddynt ddarparu mor helaeth ac mor brydlon ar gyfer anghenion ysbrydol