Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/268

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Mr. Thomas Williams, Croesor, ar hanes dechreuad a chynydd yr Ysgol Sabbothol yn y dosbarth hwn. Yr oedd yn treat mewn gwirionedd gwrando ar yr hanes yn cael ei roddi mewn gwedd mor ddifyrus. Mae yn anhawdd meddwl pa lwybr gwell a allesid ei fabwysiadu gan y gymanfa mewn ffordd o ddathliad ar Ganmlwyddiant yr Ysgol Sabbothol." Yn ddiweddarach ar y flwyddyn cynhaliwyd cyfarfod yn y Pen- rhyn, a olygid yn uniongyrchol yn Wyl y Canmlwyddiant. Dichon hefyd i fwy o'r cyfryw gyfarfodydd gael eu cynal yn y cylch nag a grybwyllir yma.