Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/267

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

GWYL Y CANMLWYDDIANT YN 1885.

Amgylchiad a dynodd sylw Cymru yn arbenig yn y flwyddyn 1885 ydoedd cynhaliad lliaws mawr o gyfarfodydd ymhob sir, ac ymhob rhan o bob sir, y rhai a olygid yn wyl fawr goffadwriaethol, i gofio am ddechreuad gogoneddus yr Ysgol Sabbothol, trwy offerynoliaeth y Parch. Thomas Charles, o'r Bala. Nid yw hanes y sefydliad yn unrhyw ran o'r wlad yn gyflawn heb grybwylliad am yr amgylchiad hwn. Yn y rhan orllewinol Sir Feirionydd, y mae bron yn sicr mai yn Nolgellau ac Aberdyfi y cynhaliwyd yr Wyl Goffadwriaethol yn ei gwedd odidocaf, oherwydd fod cyfleusderau y dosbarthiadau yn peri fod nifer liosocach o ysgolion wedi ymgynull ynghyd i gynal cyfarfodydd ac i orymdeithio. Ond yr oedd y dosbarth hwn, ddeng mlynedd yn flaenorol, wedi ymranu yn dri; ac heblaw hyny, nid oedd mor hawdd taro ar fan canolog i ddwyn yr holl ysgolion at eu gilydd. Felly cynhaliwyd yma amryw gyfarfodydd yn ol cyfleusdra yr ardaloedd. Yn Mlaenau Ffestiniog cynhaliwyd cyfarfod llwyddianus iawn ar ddydd Sadwrn yn mis Mehefin, lle yr hysbysir fod 3000 o bobl mewn oed, a 1000 arall o blant, yn gorymdeithio. Dydd Sadwrn, yn mhen yr wythnos, cynhaliwyd cyfarfod drachefn yn Llan Festiniog, yn gynwysedig o ddwy ysgol y pentref a'r canghenau, lle yr oedd y gynulleidfa yn rhifo 700. Cynhaliwyd y cyfarfod cyntaf yn Engedi, o dan lywyddiaeth Mr. W. Jones (Ffestinfab), a'r cyfarfod hwyrol yn Peniel, dan lywyddiaeth Mr. W. Davies, Peniel Terrace. Yr un diwrnod yr oedd cyfarfod yn cael ei gynal i'r un perwyl yn Maentwrog, pryd y cymerwyd rhan yn y gweithrediadau gan y gweinidog, y Parch. G. C. Roberts, y Parchn. D. Davies, Abermaw, ac Elias Jones, Talsarnau, a Mr. G. J. Williams, F.G.S., Blaenau Ffestiniog. Ar ddydd Sadwrn, Mai 30ain, cynhaliwyd Cymanfa Ysgolion Dosbarth Penrhyndeudraeth. Ymhlith pethau eraill o weithrediadau y Gymanfa, ceir y sylw a ganlyn,-"Darllenwyd papyr gwir ragorol gan