Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/266

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

i'r ymraniad gymeryd lle. Cymerwyd yr achos i fyny drachefn, nodwyd pwyllgor i dynu allan gynllun yr ad-drefniad; ac wedi cymeryd llais yr ysgolion, yr oedd 18 o blaid a 4 yn erbyn. Felly penderfynwyd i'r rhaniad gymeryd lle, ac i ddyfod i weithrediad ddechreu y flwyddyn 1875. Yn Nghyfarfod Misol Mawrth, y flwyddyn hono, "Cadarnhawyd penderfyniad Cyfarfod Ysgolion Dosbarth Ffestiniog i ranu y Dosbarth yn dair rhan, o dan arolygiaeth un Gymanfa Ysgolion Flynyddol, yn cymeryd i fewn yr oll o'r Dosbarth fel yr oedd o'r blaen, a pherthynas y Dosbarth â'r Cyfarfod Misol i barhau fel cynt." Nifer yr ysgolion y flwyddyn cyn yr ymraniad oedd 29; ysgolheigion, 4,564. Yr adraniadau y flwyddyn gyntaf ar ol y rhaniad, sef yn 1875, oeddynt,—Dosbarth Blaenau Ffestiniog, ysgrifenydd—Mr. Owen Jones, Ffestiniog; Dosbarth Deheuol Ffestiniog, ysgrifenydd—Mr. R. G. Pritchard, Maentwrog'; Dosbarth Penrhyndeudraeth, ysgrifenydd—Mr. Hugh Jones, Bryngwilym. Y swyddogion ar ddechreu y flwyddyn 1890 oeddynt:—Dosbarth Blaenau Ffestiniog: Arholwr-Parch. T. J. Wheldon, B.A.; Llywydd—Mr. J. Parry Jones, U.H.; Ysgrifenydd—Mr. W. P. Evans. Dosbarth Deheuol Ffestiniog: Arholwr—Parch. John Williams, B.A.; Llywydd—Mr. T. R. Jones, Engedi: Ysgrifenydd—Mr. R. O. Ellis, Peniel. Dosbarth Penrhyndeudraeth: Arholwr—Parch. E. J. Evans; Llywydd—Mr. R. G. Pritchard; Ysgrifenydd—Mr. Hugh G. Roberts. Rhoddwyd hanes y rhaniad hwn fel y byddo yn nghadw wrth law pan y delo angen amdano. Nid ydyw y Gymanfa y cyfeirir ati yn para mewn grym, o leiaf yn yr ystyr y bwriedid iddi fod ar y cyntaf. Ymhob ystyr arall y mae y gweddill o'r trefniadau yn aros fel yr oeddynt. Erys un peth ynglyn â Dosbarth Ffestiniog yn ddigyfnewid, fel y trefnwyd ef yn Nghymdeithasfa Dolgellau, ddeng mlynedd a thriugain i'r flwyddyn hon, sef fod y Cyfarfod Ysgolion i'w gynal y trydydd Sabbath yn y mis.