Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/265

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

oedd hyny at yr amgylchiad. Ni ddigwyddodd i ni weled hanes ond am un o'r cyfryw gyfarfodydd yn Ngorllewin Meirionydd, sef yr un a gynhaliwyd yn Mhenrhyndeudraeth, ar y 14eg o Hydref, 1831. Mae yr hanes hwnw i'w weled yn y Drysorfa am 1832, tudalen 99, wedi ei ysgrifenu gan Ioan, Parthfa Llechau, yr hwn yn ddiameu ydoedd Mr. John Davies, blaenor ieuanc yn Mhenrhyndeudraeth, wedi hyny o Benycei, Porthmadog. Nid ydyw yr hanes ond ychydig o linellau, ac y mae fel y canlyn,-"Buom mor ffodus a chael y Parch. John Elias i'n cynorthwyo. Ac am fod torf liosog wedi ymgynull ynghyd, gadawyd y pwnc a barotowyd i'r ysgolheigion erbyn y dydd rhag-grybwylledig, heb ei holi, i'r diben o adael amser i'r gŵr a enwyd i adrodd hanes dechreuwyr a dechreuad yr Ysgolion Sabbothol yn Lloegr a Chymru, a'r gwaith mawr a wnaed gan Dduw trwyddi yn ystod 50 mlynedd o amser. Holwyd y pwnc ar y nos Sabbath canlynol gan y Parch. Cadwaladr Owen, Dolwyddelen." Y pwnc ydoedd, Gwerthfawrowgrwydd a buddiant Addysg Ysgrythyrol.'

RHANIAD Y DOSBARTH YN DRI.

Oherwydd fod poblogaeth y wlad yn cynyddu, a nifer yr ysgolion yn amlhau, teimlid anesmwythder er's tro am gael rhanu y Dosbarth. Ystyrid ef hefyd gan lawer yn anhylaw i gynal y Cyfarfodydd Ysgolion oblegid y pellder rhwng yr ysgolion pellaf a'u gilydd,—cyrhaeddai o gapel Eden, yn nghwr pellaf ardal Trawsfynydd, i Minffordd, yn ngwaelod ardal y Penrhyn. Ar ol llawer o ymdrafodaeth ynghylch y mater, tybid fod yr amser wedi dod i ymranu yn ddwy ran; ac yn Nghyfarfod Misol Mai, 1871, pasiwyd penderfyniad, yn unol â chais a ddaethai i'r cyfarfod hwnw, "Fod caniatad yn cael ei roddi i Ddosbarth Ffestiniog i ymranu, os bydd mwyafrif ysgolion y Dosbarth yn galw am hyny." Ond wedi cymeryd llais yr ysgolion, cafwyd nad oedd addfedrwydd y pryd hwnw