Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/264

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Yn Nghyfarfod Ysgolion y Tabernacl, Mawrth 18, 1866, yr apwyntiwyd ei olynydd. Fel hyn y dywed y cofnodion,- "Dewiswyd John Parry Jones, Llechrwd, yn unfrydol iawn yn ysgrifenydd cynorthwyol i Morris Llwyd, gan ddisgwyl iddo ef gael yn fuan ei adferu." Efe ydyw Mr. J. Parry Jones, U.H., Bank, Blaenau Ffestiniog, sydd bellach er's llawer o amser mor adnabyddus fel gweithiwr rhagorol ymhob cylch o ddefnyddioldeb. Cyflawnodd yntau waith ei swydd yn dra ffyddlawn, a chadwodd y cofnodion yn fanwl, hyd nes yr ymranwyd yn dri dosbarth, a pharhaodd wedi hyny yn ysgrifenydd y Gymanfa a berthynai i'r holl gylch, a rhoddodd ei swydd i fyny yn 1880.

HOLWYDDORWR YR YSGOLION.

Yr holwyddorwr apwyntiedig yn 1820 oedd Richard Jones, wedi hyny y Parch. Richard Jones, y Bala, ac efe, yn ol pob tebygolrwydd, oedd holwyddorwr cyntaf y Dosbarth. Nid oes wybodaeth pwy fu yn llenwi y swydd ar ei ol ef. Ond sicr ydyw mai y gŵr a wnaeth fwyaf o waith fel gofalwr a hol- wyddorwr yr ysgolion yn yr holl gylch ydoedd y Parch. Robert Parry, Ffestiniog. Bu ef yn sefydlog yn yr ardal am dros ddeng mlynedd ar hugain, ac yr oedd yma yn ystod y blynydd- oedd y bu cynydd mawr yn y boblogaeth. Yr oedd yn ŵr deallus a hyddysg yn yr Ysgrythyrau, a'i ddawn yn rhedeg yn arbenig yn y ffordd hon. Gellir ei ystyried fel yn ddolen gydiol rhwng yr hen ddull a'r dull diweddaraf o holwyddori. Mae y rhan hon o Sir Feirionydd o dan ddyled i barchu ei goffadwriaeth. Bu farw ddechreu 1880.

JIWBILI YR YSGOL SABBOTHOL.

Pan gyrhaeddodd yr Ysgol Sabbothol ei haner canfed. flwyddyn, cadwyd gwyl mewn amryw o siroedd Cymru er gwneuthur coffa am yr amgylchiad. Gwelir cyfeiriadau mynych yn ngwahanol gyfnodolion y Dywysogaeth y blynydd-