Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/275

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

achos, ac yn gwobrwyo. Ni wnaeth y wraig weddw hono o Sarepta ddim a dalodd yn well iddi na'r deisen hono i ŵr Duw. Fe fu yn fortune i Obededom i'r Arch gael ei throi i'w dŷ. Ac ni chafodd Pedr erioed y fath helfa o bysgod a'r diwrnod y rhoddodd fenthyg ei long yn bwlpud i Iesu Grist i bregethu allan o honi. Y mae yn Ffestiniog lawer allant ddwyn tystiol- aeth i'r bendithion a dderbyniasant eu hunain, trwy roddi benthyg eu harian yn y ffordd yma ar gapelau. Y maent wedi dysgu dau beth gyda'u gilydd, sef cynildeb a haelioni. Dywedai y diweddar Barchedig Richard Humphreys, os byddai i ddyn ddysgu enill ac heb ddysgu cynilo, yr elai yn wastraffus. O'r tu arall, os dysgai gynilo heb roddi, elai yn gybydd. Ond yr oeddynt hwy yno wedi dysgu dau beth, cynildeb a haelioni. Mae y cybyddion olaf yn Ffestiniog wedi eu gweithio i ffordd."

YR ACHOS DIRWESTOL.

Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Dirwest
ar Wicipedia

Un o neillduolion chwarelwyr ac ardalwyr Ffestiniog ydyw, eu bod wedi dangos mawr sel o blaid achos dirwest o'r cychwyn cyntaf. Cynhaliwyd y cyfarfod dirwest cyntaf erioed yn Ffestiniog yn nghapel Bethesda, Hydref 25, 1836. Llywyddwyd y cyfarfod gan y Parch. Thomas Williams, a'r prif areithiwr oedd Mr. W. Ellis Edwards, Penrhos (wedi hyny y Parch. W. Edwards, Aberdar). Ardystiodd 104 yn y cyfarfod cyntaf. Ymhen llai na thri mis, sef Ionawr 12fed, 1837, yr oedd nifer y dirwestwyr yn y Blaenau yn 803, yn y Llan 278, Coedbach 40—cyfanrif 1121. Safodd y gymydogaeth, o hyny hyd yn awr, mor gryf o blaid achos sobrwydd ag un man yn Nghymru. Y mae llwyrymwrthodiad â diodydd meddwol, fel rheol, wedi bod yn amod aelodaeth eglwysig yn y cylch hwn o'r wlad. "Un o'r pethau cyntaf oll a adawodd argraff ar ein côf," ebe ysgrifenydd mewn erthygl yn y Traethodydd ar "Ymneillduaeth yn Ffestiniog," tuag ugain mlynedd yn ol, "ydoedd gweled cyfarfodydd brwdfrydig yn cael eu cynal, a'r trigolion