Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/276

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn rhodio yn orymdaith, ar nosweithiau goleu leuad, o un cwr i'r fro i'r cwr arall, gan gario baneri sobrwydd i chwifio yn yr awyr, a chanu nes gwneyd i'r creigiau grynu." Ymladdwyd brwydrau, flynyddoedd lawer yn ol, o flaen ustusiaid y dos- barth, er gwneuthur ymdrech i leihau nifer y tafarndai a roddent achlysur i feddwdod, a buwyd i fesur yn llwyddianus. Ac er clod i weinidogion yr Efengyl a gwladgarwyr twymgalon eraill, buont lawer gwaith yn dadleu yr achosion hyn eu hunain o flaen mainc yr ynadon. Mor ddiweddar a dechreu Awst y flwyddyn hon (1890), enillwyd yn y dull hwn, mewn canlyniad i ymdrechion gwrol nifer o wyr da yr ardal, un o'r buddugoliaethau godidocaf yn hanes ymdrechion dirwestol ein gwlad, trwy atal trwyddedau tair o dafarndai yn mhlwyf Ffestiniog.

CYFARFOD DOSBARTH FFESTINIOG.

Y mae y wybodaeth sydd ar gael am ffurfiad y cyfarfodydd dosbarth, ynghyd a'u gweithrediadau yn amser y tadau, yn hynod o brin. Y crynhodeb goreu y llwyddasom i ddyfod o hyd iddo ydoedd, crybwyllion a gasglwyd o ysgrifau a llythyrau Lewis William, Llanfachreth, a John Jones, Penyparc, yr hyn y rhoddwyd eglurhad arno eisoes (cyf. i. 268-272, a 343- 346). Mae dosbarth Ffestiniog, fel y mae yn dal cysylltiad âg amgylchiadau yr eglwysi, ac â'r Cyfarfod Misol, yn aros yr un faint o ran ei gylch, heb dynu dim oddiwrtho na chwanegu dim ato, er y flwyddyn 1820. Ychydig o waith a wnelid ynddo hyd o fewn yr ugain mlynedd diweddaf. Ymgynullai ynghyd yn achlysurol, gan amlaf wrth orchymyn a chyfarwyddyd y Cyfarfod Misol. Ni chedwid dim cofnodion i fod yn arosol. Gosodid rhyw frawd yn llywydd, ac weithiau, fel y digwyddai, ysgrifenid yn y dyddiadur, neu ar ryw ddalen a geid wrth law, unrhyw beth a fu dan sylw. Eithr yn awr gwneir llawer mwy o waith yn y cyfarfod dosbarth, a chedwir