Gwirwyd y dudalen hon
pethau mewn gwell trefn. Mewn cyfarfod a gynhaliwyd yn Maentwrog, Hydref 29ain, 1874, penderfynwyd, "Fod llyfr yn cynwys cofnodion holl gyfarfodydd y dosbarth i gael ei gadw, a bod William Davies, Ffestiniog, i fod yn ysgrifenydd." O'r adeg hono hyd yn awr cedwir cofnodion rheolaidd, ac megis y crybwyllwyd, daw llawer mwy o faterion i gael sylw yn y cyfarfodydd. Mawrth 18fed, 1881, rhoddodd Mr. W. Davies ei swydd fel ysgrifenydd i fyny, ac etholwyd Mr. J. Parry Jones, U.H., y Banc, yn ei le. Rhagfyr 12fed, 1884, rhoddodd yntau ei swydd i fyny, ac etholwyd Mr. Owen Jones, yn awr o Erw Fair, i'r swydd. Ac efe ydyw ysgrifenydd a chynullydd Cyfarfod Dosbarth Ffestiniog hyd yn bresenol.