Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/28

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Seneddol yn y plwyf yn 1649, oherwydd eu drwgfuchedd, eu hanghymwysder i'w gwaith, a'u hesgeulusdra, trowyd allan un Henry Thomas, o fywoliaeth Ffestiniog a Maentwrog. Dywedir am yr esgob Humphreys, yr hwn a anwyd yn yr Hendref, Penrhyndeudraeth, Tachwedd 1648, a'r hwn a fu yn beriglor Llanfrothen, ac wedi hyny yn dal bywoliaeth Trawsfynydd, ei fod yn ŵr dysgedig ac enwog, a hynod o grefyddol. Cyfododd enwogion eraill o ardal Trawsfynydd, megis y Parchn. David Llwyd, A.C., a anwyd yn Pantmawr, yn y flwyddyn 1635; Humphrey Llwyd, D.D., a anwyd yn Bod y Fuddau, yn 1610, ac a gysegrwyd yn esgob Bangor yn 1673; Richard Nanney, o Cefndeuddwr, yr hwn a gafodd ficeriaeth Clynog Fawr yn 1732—y rhai oeddynt wyr da, ond ni threuliasant eu hoes yn yr ardaloedd hyn.

Cyhoeddwyd yn yr Archæologia Cambrensis am Hydref 1863, adroddiad o ymweliad a wnaeth Dr. Lewis Baily, esgob Bangor, â gwahanol blwyfydd ei esgobaeth, yn y flwyddyn 1623. Ymhlith y crybwyllion am Sir Feirionydd, ceir a ganlyn:—

LLANDECWYN A LLANFIHANGEL-Y-TRAETHAU.

Ni chafwyd ond un bregeth yn Llanfihangel-y-Traethau, a dim ond dwy neu dair yn Llandecwyn, ac nid yw y person yn cyfranu dim at gynhaliaeth y tlodion.

TRAWSFYNYDD.

Y mae yn arferiad yn y plwyf hwn i osod cyrff i lawr ar y croesffyrdd, wrth eu cymeryd i'w claddu, a dweyd gweddi neu ddwy uwch eu penau. Syr Robert Llwyd yw y person yma. Arferid y gair Syr y pryd hwnw o flaen enw yr offeiriaid yn gyfystyr a'r gair Parchedig yn ein hoes ni. Yr oedd yr arferiad o roddi y cyrff i lawr mewn croesffyrdd, wrth eu dwyn i'r gladdfa, yn cael ei dilyn mewn llawer o ardaloedd yn Nghymru yn yr oesau gynt. Un o ofergoelion yr amseroedd