Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/29

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ydoedd. Oddiwrth y cyfeiriad at anamlder y pregethau, gellir casglu mai esgeulus iawn o'u dyledswyddau oedd yr offeiriaid. Ac oddiwrth y dyfyniad mewn perthynas i'r tri phlwyf uchod, tebygol ydyw mai cyffelyb ydoedd yn y plwyfi eraill. Gwnaed yr ymweliad uchod gan yr Esgob Baily, fel y gwelir, flwyddyn cyn marw Archddiacon Meirionydd. Nid oes dim crybwylliad yn yr adroddiad am Ffestiniog a Maentwrog. Y mae lliaws o leoedd eraill hefyd heb ddim crybwylliad am danynt. Y rheswm am hyn, cyn belled ag yr ydym yn deall ydyw, mai wedi myned ar goll yr oedd rhanau o'r adroddiad cyn ei gyflwyno i'r wasg yn 1863.

Y mae enwau tri o wyr enwog wedi disgyn i lawr i'r oes bresenol, y rhai, yn bur sicr, a adawsant eu hol ar eu cydoeswyr, a'r rhai hefyd, yn yr ystyr hwn, a barotoisant y ffordd i'r rhai oedd yn dyfod ar eu hol i addysgu y wlad.

HUW LLWYD, CYNFAL.

Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Huw Llwyd
ar Wicipedia

Bardd enwog oedd Huw Llwyd, yn trigianu yn Nghynfal, hen balasdy yn mhlwyf Maentwrog, ond ar derfyn plwyf Ffestiniog. Yr oedd "braint" Cynfal yn hen Eglwys Blwyfol Ffestiniog, ac nid Maentwrog.[1] Ganwyd ef oddeutu 1540, a bu farw yn ei gartref yn 1620, yn 80 mlwydd oed. Derbyniodd ei addysg yn Nolgellau, ac fe ddaeth yn ysgolhaig gwych. Gwasanaethodd fel swyddog yn y fyddin yn Lloegr ac ar y Cyfandir. Ceir cyfeiriadau yn ei farddoniaeth ef ei hun at y gwledydd y bu yn eu teithio. Y mae yn nghanol yr afon a red gerllaw Cynfal, mewn ceunant rhamantus, gruglwyth o graig, pymtheg neu ddeunaw troedfedd o uchder, a adwaenir fel "Pulpud Hugh Llwyd," lle y dywed llafar gwlad yr elai i fyfyrio. Yr oedd Hugh Llwyd, yn sicr, wedi arfer myfyrio, lle bynag y gwnaeth hyny, oblegid yr oedd yn llenor gwych yn gystal a bardd o fri. Cyhoeddwyd rhai o'i weithiau, ond

  1. Hanes Plwyf Ffestiniog, G. J. W., tudal. 222,