Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/30

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

y mae y rhan fwyaf o honynt wedi eu trosglwyddo i lawr i'r oes hon mewn llaw-ysgrifen, ac yn cael eu cadw yn yr Amgueddfa Brydeinig, a lleoedd eraill. Canodd prif feirdd yr oes yn odidog ar ei ol. Gwnaeth Edmund Prys, yr hwn oedd yn cyd-oesi ag ef, yn gyfaill ac yn gymydog agosaf iddo, yr englyn canlynol ar ei farwolaeth:—

"Pen campau doniau a dynwyd—o'n tir,
Maentwrog ysbeiliwyd ;
Ni chleddir, ac ni chladdwyd,
Fyth i'r llawr mo fath Huw Llwyd."

MORGAN LLWYD, O WYNEDD.

Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Morgan Llwyd
ar Wicipedia

Yr oedd yntau o deulu Cynfal,—mab, medd rhai, nai neu wyr, medd eraill,—i'r enwog Huw Llwyd. Erys cryn lawer o ansicrwydd ynghylch hyn. Ond fe gyrhaeddodd ei ddylanwad ef er daioni ar ei gydwladwyr yn eangach nag eiddo ei berthynas enwog yn ol y cnawd. Y dystiolaeth gyffredin ydyw, ei fod yn un o ddynion goreu ei oes, ac eto ychydig, mewn cymhariaeth, sy'n wybyddus am helyntion ei fywyd. Y crynhodeb goreu, yn ddiau, ydyw yr hyn a geir yn y Rhagarweiniad gan y Parch. O. Jones, B.A., Liverpool, i Lyfr y Tri Aderyn, a gyhoeddwyd gan Mr. Isaac Foulkes, yn 1889. Ganwyd Morgan Llwyd tua'r flwyddyn 1619, fel y tybir, yn Nghynfal. Gelwir ef gan ysgrifenwyr y Gogledd yn "Morgan Llwyd o Gynfal," a chan ysgrifenwyr y Deheudir, "Morgan Llwyd o Wynedd," am yr ystyrid ef yn brif efengylwr i drigolion Gwynedd, a'r penaf o efengylwyr Ymneillduol y dalaeth Ogleddol. Argyhoeddwyd ef o dan weinidogaeth Walter Cradoc, yn Ngwrecsam, pan yr oedd ef yno yn yr ysgol. Cymerodd hyn le tua'r flwyddyn 1635, tra nad oedd ond 16 oed. Ymroddodd yn fuan i'r weinidogaeth. Yr oedd yn meddu ar alluoedd naturiol cryfion, cafodd addysg dda, ac yr oedd o dueddiadau crefyddol a duwiolfrydig. Treuliodd y rhan