Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/31

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

fwyaf o'i amser fel gweinidog yn Ngwrecsam, ond elai ar deithiau mynych trwy Ogledd Cymru, a bu yn foddion i sefydlu eglwysi Ymneillduol mewn amryw fanau. Y mae traddodiad y byddai yn ymweled yn fynych â Phwllheli, ac yr arferai fyned trwy y dref ar ddyddiau marchnad, a'r Beibl yn ei law, a golwg hynod o urddasol arno, fel yr effeithiai yn fawr ar y bobl, hyd yn nod yn nghanol eu gorchwylion.

Dywed Robert Jones, Rhoslan (Drych yr Amseroedd)—"Un tro pan oedd yn pregethu yn mhentref Ffestiniog, a bod yno ymysg amryw oedd yn cellwair ac yn gwawdio, un dyn ieuanc yn rhagori arnynt oll mewn ysgafnder a chellwair; wrth sylwi arno nododd ef allan, gan ddywedyd wrtho fel hyn, 'Tydi, y dyn ieuanc, gelli adael heibio dy gellwair; tydi yw y cyntaf a gleddir yn y fynwent yna.' Ac felly y bu." Hysbys ydyw iddo lefaru llawer o bethau tebyg trwy broffwydoliaeth, a daethant i ben fel y llefarodd hwynt. Yr oedd yn bregethwr poblogaidd, ac yr oedd nerth rhyfedd yn ei weinidogaeth. Priodol iawn y gellid cymhwyso ei eiriau yn Llyfr y Tri Aderyn ato ef ei hun,— "Mae rhyw nerth ymysg dynion yr awrhon nad oedd o'r blaen. Mae rhyw ysbryd rhyfedd yn gweithio, er nad yw y bobl yn gweled." Yr oedd yn byw mewn amseroedd cythryblus, a bu yn ffoadur yn Lloegr, o'r lle yr anfonodd lythyrau tra dyddorol at ei berthynasau yn Nghymru. Cytuna ei gydoeswyr a'r rhai a oesent ar ei ol i'w osod allan fel prif efengylwr a chymwynaswr ei wlad. Dywed y Parch. John Evans, o'r Bala, trwy Mr. Charles am dano,— "Gwr tra enwog yn ei oes oedd Morgan Llwyd; o gyneddfau cryfion, dwys fyfyrdod, a symlrwydd duwiol." Bu farw Mehefin 3ydd, 1659, yn 40 mlwydd oed. Claddwyd ef yn mynwent Ymneillduol Rhosddu, gerllaw Wrecsam. Ysgrifena y Parch. John Hughes yn Methodistiaeth Cymru,-" Dywed Robert Jones, Rhoslan, yn Nrych yr Amserosdd, iddo ef weled darn o gareg ei fedd, a'r llythyrenau 'M. Ll.' arni.