Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/32

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Gallaf finau dystio yr un peth; cyfeiriwyd fy sylw aml waith at y darn careg, gan yr hen wr fyddai arferol o dori beddau yno." Cyfansoddodd amryw lyfrau. Y penaf a'r hynotaf ydyw Llyfr y Tri Aderyn, yr hwn sydd wedi ei ysgrifenu ar ddull ymddiddan rhwng yr Eryr, y Gigfran, a'r Golomen; y rhai a osodant allan Cromwell, yr Eglwys Sefydledig, a'r Anghydffurfwyr.

Ni welsom yn un man fod haneswyr yn rhoddi ei hanes yn pregethu i'w gyfoedion yn ei ardal enedigol, oddieithr yr un crybwylliad am dano yn pregethu yn mhentref Ffestiniog. Ond diameu i ŵr mor rhagorol ag ef fod yn pregethu yno lawer gwaith heblaw y tro hwnw.

EDMUND PRYS, ARCHDDIACON MEIRIONYDD.

Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Edmwnd Prys
ar Wicipedia

Ysgrifenwyd llawer o bryd i bryd am yr Archddiacon, ac am ei weithiau barddonol clodfawr. Ganwyd ef yn y Gerddi Bluog, plwyf Llanfair, ger Harlech, yn y flwyddyn 1511. Gwnaed camgymeriad gan rai ysgrifenwyr, trwy roddi y Gerddi Bluog yn mhlwyf Llandecwyn, ond yn mhlwyf Llanfair y mae. Fel hyn y dywedir yn Llyfrgell Hynafiaethol Tan-y-bwlch: "Yr Archddiacon oedd fab Tyddyndu, Maentwrog, ac a anwyd yn y flwyddyn 1541. Efe a aeth i fyw yn y Gerddi Bluog, yn mhlwyf Llanfair, ar briodas ei ail fab, Morgan Prys, â Margaret Williams, etifeddes y Gerddi Bluog. Fei claddwyd yn Maentwrog, heb unrhyw gof-lech, yn y flwyddyn 1624."

Saif Tyddyn Du, hen gartref yr Archddiacon, yn ymyl y groesffordd, lle y troir i lawr i Maentwrog wrth fyned ar hyd. y ffordd fawr o Drawsfynydd, ac yn agos i Orsaf bresenol Maentwrog Road. Y mae hefyd yn ffinio â Chynfal, o enwog goffadwriaeth. Yr oedd Huw Llwyd a'r Archddiacon yn cyd-oesi, bron yn hollol; ond pump oed oedd Morgan Llwyd pan fu y diweddaf farw.