Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/33

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Addysgwyd Edmund Prys yn Ngholeg St. Ioan, Caergrawnt, lle y graddiwyd ef yn A.C. Penodwyd ef i berigloriaeth Ffestiniog a Maentwrog yn y flwyddyn 1572; yn 1576, ordeiniwyd ef yn Archddiacon Meirionydd; yn 1580, cafodd bersonoliaeth Llanddwywe; a Hydref 8fed, 1602, ordeiniwyd ef yn Canon (Canonicus Secundus) Llanelwy. Yr oedd yn un o feirdd Cymreig enwocaf ei oes, ac yn ysgolhaig gwych. Y mae llawer o'i ysgrifeniadau yn awr ar gael, mewn ysgrifen yn unig, er fod llawer o honynt hefyd wedi eu cyhoeddi. Mae yn amlwg, hefyd, ei fod yn ddysgedig, gan y dywedir ei fod yn hyddysg mewn wyth o ieithoedd. Yr oedd yn berthynas-nai, fab cyfyrder, meddir-i William Salsbri, cyfieithydd cyntaf y Beibl i'r iaith Gymraeg. "Dywed Dr. Morgan yn ei lythyr wrth gyflwyno y Beibl i'r Frenhines Elizabeth, nas gallasai ef byth gyfieithu ond pum' llyfr Moses yn unig, oni buasai iddo gael cynorthwy gan Edmund Prys ac eraill. A dyma englyn a wnaeth Edmund Prys ei hun pan fygythid ef gan y Pabyddion am gynorthwyo y Dr. Morgan i gyfieithu y Beibl i'r Gymraeg—

"Nid all diawl, na'r hawl sy'n rheoli—drwg,
Na dreigiau na chyni,
Na dim wneyd niwed imi,
Ag a Duw mawr gyda mi."[1]

Gweithiau barddonol Edmund Prys a roddodd enwogrwydd iddo yn yr oes yr oedd yn byw ynddi. Ysgrifenodd yn agos i 60 o Gywyddau ymryson rhyngddo â William Cynwal. Mor llymion oedd rhai o honynt fel y dywedir iddynt fod yn achos o farwolaeth ei wrthwynebydd. Cyn gynted ag y clywodd yr Archddiacon hyn, cyfansoddodd farwnad i William Cynwal, yn yr hon y dywed:—

"Duw'n ei gofl, da iawn gyflwr
Doe aeth ag ef, doethaf gwr

  1. Enwogion Swydd Feirionydd, Mr. Edward Davies, 40.