Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/281

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PENOD I.

CRYBWYLLION AM DDYFFRYN ARDUDWY YN FLAENOROL I'R FLWYDDYN 1785.

Y CYNWYSIAD.—Cymeriad ac arferion y trigolion cyn 1785—Y ddau filwr, Griffith Prys Pugh a'r Milwriad Jones—Darluniad o Feirion yn amser Oliver Cromwell—Y Gerddi Bluog—Philipiaid awenyddol Ardudwy—Y Parch. Ellis Wynn, awdwr y 'Bardd Cwsg'—Ysgrifau y Parch. Richard Humphreys—Modryb Lowri—Gwers ar Ryddid ac Anrhydedd o'r Oes ddiweddaf i hon—Y goleuni yn tori trwy ymddangosiad y Pregethwyr Methodistaidd.

 MHOB gwlad y megir glew." Mae y ddihareb wedi ei seilio ar sylwadaeth graff a manwl yr hen Gymry, ac y mae wedi ei gwirio ymhob oes yn gystal ag am bob gwlad. Enwogion gwlad sydd yn gwneyd i fyny ei hanes; yr hyn sydd yn wybyddus am eu gweithredoedd a'u bywyd hwy sydd yn wybyddus am y lliaws oedd yn cydoesi â hwy; ac y mae eu coffadwriaeth hwy, fel pinaclau arhosol, yn parhau i daflu goleuni i'r oes a'r oesau a ddaw ar yr hyn a fu. Am grefydd ac Ymneillduaeth, yn Nyffryn Ardudwy, yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, fe fydd mawr son, am y rheswin fod yma nifer o wyr enwog a dewr wedi bod yn chwareu rhan dda er ffurfio cymeriad yr oes. Pa beth a fu cymeriad a thynged eu tadau a'u teidiau o'u blaen, nid oes genym ond casglu oddiwrth yr hyn sydd wedi rhedeg i lawr hyd atom ni, trwy draddodiad a llafar gwlad. Fe gofir y flwyddyn 1785 gan genedl y Cymry tra bo y genedl a'r iaith mewn bod, fel blwyddyn sefydliad yr Ysgol Sabbothol. Yr