ydym wedi cynefino â chlywed am y bendithion fyrdd a ddaeth i'n gwlad trwyddi hi, am y cyfnewidiadau mawrion a gymerasant le, ac am y gwelliantau anhygoel a wnaethpwyd yn arferion a chymeriad pob rhan o'r wlad. Nid ydym yn peidio a rhyfeddu wrth glywed am y pethau hyn, mwy nag yr oedd plant Israel yn peidio a rhyfeddu wrth glywed am y mawrion weithredoedd a wnaeth Duw yn amser eu tadau. Y mae rhyw chwilfrydedd yn y natur ddynol hefyd am wybod cymaint a ellir am y pethau gynt a fu, pe na byddai ond y si a gludir ar adenydd yr awelon. Yr ydym yn hoffi gwybod tipyn o hanes y preswylwyr am y mynydd â ni, er na byddwn bron byth yn eu gweled na'u cyfarfod. Cymydogion agos i ni oedd ein cydgenedl a oesent yn y ganrif ddiweddaf, rhai yn byw am gefnen gul o fynydd â ni, neu yn hytrach ar gwr pellaf yr un gwastadedd, megis yn y golwg o dan y terfyngylch draw. Beth oedd eu sefyllfa hwy? Ymha beth yr oedd eu llawenydd a'u galar yn gynwysedig? Beth oedd eu rhagolygon am hapusrwydd a dedwyddwch-pethau y mae holl blant dynion yn cyrchu atynt? Crybwyllion yn unig sydd genym i'w gwneuthur am y cyfnod tuhwnt i'r hyn a osodir yn derfyn uwchben y benod hon.
Yn amser Oliver Cromwell, ychydig gyda dau can' mlynedd yn ol, yr oedd dau filwr o gryn enwogrwydd yn byw yn y Dyffryn, y rhai oeddynt yn gryf dros werin-lywodraeth, ac a ymladdent yn erbyn Charles yr Ail. Griffith Prys Pugh, etifedd y Benar Fawr, oedd un o honynt. Ymladdodd hwn yn ddewr dros ryddid gwladol a chrefyddol, tra yr oedd y mawrion a phleidwyr y brenin yn ormeswyr creulon. Yn cyd-oesi ag ef yr oedd y Milwriad John Jones, mab Maesygarnedd, yr hwn y mae beddadail iddo yn mynwent Llanenddwyn, ac yn gerfiedig arni, E. J., 1665. Yr oedd yn un o gyfeillion cyfrinachol Cromwell, yn frawd-yn-nghyfraith iddo, ac yn cyd-ymgynghori âg ef mewn achosion pwysig. Bu yn cynrychioli