Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/283

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Meirionydd yn y Senedd, ac yn un o lywodraethwyr yr Iwerddon. Llawer fu y son gan y Dyffrynwyr, y naill oes ar ol y llall, am wrhydri a dewrder y ddau filwr yn ymladd dros ryddid ac Ymneillduaeth eu gwlad, pan y galwyd hwynt i fyddin anorchfygol iron-sides Cromwell.[1]

Yn hanes yr olaf, ceir crybwylliad am agwedd foesol y wlad, a'i hanghenion ysbrydol y pryd hwnw:—

"Nid oedd neb yn y fyddin mor dduwiolfrydig ei ysbryd, ac yn teimlo cymaint dros agwedd druenus y wlad, a'r Milwriad Jones, o Faesygarnedd, fel y gwelir oddiwrth yr ohebiaeth ddyddorol a ymddangosodd yn Old Nonconformity of Wrexham, gan Palmer. Yn un o'i lythyrau mae yn gwahodd Morgan Llwyd a Vavasor Powell i ddyfod ato i'r Iwerddon i bregethu yr efengyl fwyn. Mewn un arall, mae yn gofyn beth a ddaw o Feirion dlawd? A ydyw y wlad yma i'w gadael yn hollol amddifad o'r efengyl Onid oes broffwyd neu genad i Grist a ddaw i Ddyffryn Ardudwy? Pa le y mae Morgan Llwyd a Vavasor Powell! Onid ydynt hwy yn teimlo yn fraint gael pregethu yr efengyl i'r tlodion sydd yn llochesu yn mynydd- dir Meirion? Onid ydynt hwy yn ymorchestu rhyfela â thywysog llywodraeth yr awyr? A pha le y ceir dyfod o hyd i fwy o annuwioldeb ac anwybodaeth nag a geir yn Sir Feirionydd!" [2]

Ar un o ystlysau y Dyffryn, tua thair milldir uwchlaw Harlech, yn y Gerddi Bluog, y ganwyd Edmund Prys, Archddiacon Meirionydd, ac nid ychydig yw braint y lle a all hawlio man genedigaeth gwr o'i enwogrwydd ef. Dau o wyr blaenllaw a gydoesent â'r Archddiacon, fel y gellir casglu oddiwrth ganiadau beirdd yr oes hono, oeddynt William Philip a

  1. Enwogion Dyffryn Ardudwy yn nyddiau Cromwell—cynt a chwedi. Methodist, Chwefror, 1855.
  2. Y Geninen, Ebrill, 1890.