Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/284

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Sion Philip. "Yr ydym yn awr yn nghanol gwlad Philipiaid awenyddol Ardudwy, y rhai oeddynt yn eu blodau oes o flaen Ellis Wynn (awdwr y Bardd Cwsg), William Philip o Hendre Fechan, a Sion Philip o Fochras, a'i feibion Gruffydd, Philip Sion, a Rhisiart. Yr oedd y ddau flaenaf yn enwedig yn feirdd uchelryw. Cyfunai yn William y bardd coeth a'r breningarwr selog, a pharodd ei sel iddo gryn lawer o boen a thrafferth. Yr oedd Sion Philip yn llysieuwr gwych, yn hyddysg mewn tair iaith, yn ddigon o brydydd i dynu'r dorch hefo Edmund Prys, a chyn hired ei wynt ag yntau. Cyfarfu ei ddiwedd Ddy'gwyl Mair, 1620, trwy foddi gerllaw Pwllheli, pan yn agos i 80ain mlwydd oed."[1] Hugh Llwyd, Cynfal, a wnaeth ei feddargraff; ac yn 1858, ar draul y gwladgar Ab Ithel, cerfiwyd ef ar gareg ei fedd, sydd wrth daleen hen eglwys hynafol Llandanwg, yr hwn sydd fel y canlyn:—

"Dyma fedd gwr da oedd gu—Sion Philip,
Sain a philer Cymru;
Cwynwn fyn'd athraw canu,
I garchar y ddaiar ddu."

Saith mlynedd a deugain wedi marw Edmund Prys, sef yn y flwyddyn 1671, y ganwyd y Parch. Ellis Wynn, awdwr hynod y Bardd Cwsg, yn ffermdy elyd Lasynys, ar ganol Morfa Harlech, ychydig filldiroedd wedi pasio penelin Dyffryn Ardudwy. Sicr ydyw mai efe a gariodd y dylanwad cryfaf er daioni ar ei gymydogion o bawb a gyd-oesent ag ef. Mae chwedl ei fywyd yn cael ei hadrodd mewn ychydig o gwmpas, gan nad oes ond ychydig o'i hanes ar gael, fel llawer o hen enwogion Cymru. Mab ydoedd i Edward Wynn, o'r Glyn Cowarch, yr hwn a briodasai etifeddes y Lasynys. Awdwr y Bardd Cwsg ydoedd yr unig blentyn o'r briodas hon a fu

  1. Rhagymadrodd y Bardd Cwsg, ugeinfed argraffiad, Mr. Isaac Foulkes, 1888.