hono i ti heddyw,—caf weled Harri cyn bo hir, a chaf wybod pa fodd y mae pethau yn sefyll.' Cyn hir anfonodd y gwr bonheddig at Harri i ddweyd fod arno eisiau ei weled; aeth yntau i Gorsygedol, ond nid heb ofni fod rhyw ddrwg ar droed. Ac wedi i'r meistr a'r tenant gyfarch eu gilydd yn y dull arferedig, torai Mr. Fychan ato, a dywedai, 'Y mae Gruffydd Evan, o Uwchglan, yn dweyd wrthyf dy fod wedi myned at ryw bobl, ac na wnei di mwy na thrin y tir na thalu am dano; a ydyw hyny yn bod?' 'Nac ydyw, Syr; os caf ffafr yn eich golwg, a chael bod yn denant i chwi fel cynt, triniaf ef fel cynt, a thalaf am dano fel rhyw dyddynwr arall; ac os methaf, mi drof fy nghefn, ac a äf ymaith yn ddiddig.' 'Wel, o'r goreu, Harri,' meddai Mr. Fychan, 'ti elli fod yn ddiofal na chaiff neb dy dyddyn tra y triniech di ef, ac y talech am dano, —cymer di dy ffordd dy hun i fyned i'r nefoedd.'"[1] Bu Harri yn denant da i Mr. Fychan, a daeth yn gefnog yn y byd; daeth hefyd yn un o brif golofnau achos y Methodistiaid yn Harlech.
Y mae rhai o eglwysi y Methodistiaid yn Nyffryn Ardudwy yn cael eu cyfrif ymhlith y rhai hynaf yn y sir, er nad oedd yma ddim mwy na thair wedi eu sefydlu yn y flwyddyn 1785, sef Harlech, Abermaw, a'r Dyffryn. Yr oedd pregethu wedi dechreu, ac ychydig nifer, yma ac acw, wedi ymuno â'r grefydd newydd bymtheg neu feallai ugain mlynedd cyn hyny. Nid oedd yma ddim galluoedd nerthol, na'r un ysbryd mawr, oddigerth awdwr y Bardd Cwsg, wedi bod yn arloesi y tir ac yn parotoi y bobl i dderbyn gair yr Arglwydd. Y mae digwyddiadau mawr yn taflu eu cysgodion o'u blaen, fel y cwmwl du
yn tywyllu y gymydogaeth ymhell cyn iddo gyraedd yn unionsyth uwchben, neu fel yr heulwen oleu tu cefn i'r cwmwl yn ysgafnhau yr awyrgylch trwy ei hadlewyrchiad. Ond nid
- ↑ Methodist, 1855, tudal. 87.