Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/290

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

oedd llewyrch lloer na haul yn tywynu uwchben y cymydogaethau hyn, dim ond y fagddu dywyll yn eu gordoi pan y dechreuodd pregethwyr y Methodistiaid dramwy trwodd. Digwyddodd yma yn ol rhagfynegiad yr Ysgrythyr, "Cafwyd fi gan y rhai nid oeddynt yn fy ngheisio ; a gwnaed fi yn eglur i'r rhai nid oeddynt yn ymofyn am danaf." Yn y benod nesaf ceir gweled pa fodd y dechreuodd ac y cynyddodd crefydd yn yr eglwysi.