Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/291

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PENOD II.

HANES YR EGLWYSI.

Y CYNWYSIAD.—Harlech—Abermaw-Dyfryn—Gwynfryn—Nancol—Talsarnau-Llanbedr—Llanfair—Eglwys Saesneg Abermaw.

HARLECH

 ARLECH oedd y lle cyntaf yn Nosbarth y Dyffryn i gael y fraint o dderbyn yr efengyl drwy y Methodistiaid Calfinaidd, a'r person fu yn offerynol i ddwyn pregethu gyntaf i'r fro oedd Griffith Ellis, Pen'rallt. Lowri Williams, Pandy'rddwyryd, fu yn foddion ei dröedigaeth ef, am yr hyn y ceir hanes helaeth yn y drydedd benod. Cymerodd yr amgylchiad hwnw le rhwng 1755 a 1760. Enynodd y tân a gyneuwyd yn Mhandy'rddwyryd y blynyddoedd hyny, nes bod yn foddion i blanu amryw eglwysi yn amgylchoedd Ffestiniog. Daeth Griffith Ellis, hefyd, a'r gwreichion oddiyno i gymydogaeth Harlech. Ymhen rhyw gymaint o amser agorodd ei dŷ ei hun i gynal moddion ynddo, a gwnelai ymdrech mawr i gael pregethwyr i bregethu yn achlysurol yn yr ardaloedd o amgylch ei gartref. Ac am yr ysbaid o ugain mlynedd ymddengys ei fod yn unig yn y gorchwyl hwn. "Fe fu Griffith Ellis," ebe Methodistiaeth Cymru, yn fendith fawr yn ei ardal, ac nid yn unig yn ei ardal ei hun, ond yn y rhai cymydogaethol hefyd, ac y mae ei enw yn beraroglaidd hyd heddyw yn ei fro enedigol." Ceir ei hanes yn rhoddi yr hedyn i lawr yn nghymydogaeth Llanfair, ac yn dyfod a phregethwyr i bregethu y troion cyntaf i'r Dyffryn.