Ymddiriedolwyr y weithred grybwylledig oeddynt bump o nifer, sef y Parchn. Thomas Charles a Dafydd Cadwaladr, Bala; Mri. Henry Roberts, Uwchlaw'r coed; Robert Jones, Harlech; ac Edward Griffith, Tyddyndu. Ceir hysbysrwydd yn llyfrau y Cyfarfod Misol fod y tir y safai y capel cyntaf arno wedi ei brynu yn Mehefin, 1823, am 60p. Y tebygrwydd ydyw mai i brynu y tir hwn yn feddiant yr aeth yr arian a nodir yn y weithred uchod, oblegid meddai yr ymddiriedolwyr hawl i ddefnyddio y llôg a chorff yr hawl fel y gwelent hwy yn oreu. Hysbysir hefyd am dir wedi ei ganiatau yn 1849 gan Robert Jones, a bod pedwar ar ddeg o ymddiriedolwyr wedi eu nodi y flwyddyn hono, ond ni roddir hysbysrwydd am ddim wedi ei dalu am dano.
Ymhen ychydig dros ddeugain mlynedd wedi adeiladu y tro cyntaf, sef oddeutu 1837, adeiladwyd y capel yr ail waith. Ac yn 1864, adeiladwyd ef y drydedd waith, i'r ffurf y mae ynddo yn bresenol. Fel hyn y dywed y penderfyniad a basiwyd yn Ebrill y flwyddyn hono,-"Cyflwynwyd cynlluniau y capel. newydd a fwriedir ei adeiladu yn Harlech gerbron y cyfarfod, ac amlygwyd cymeradwyaeth o honynt. Barnent y byddai y draul tua 350p., ac yr oedd yr addewidion eisoes yn cyraedd tros 150p." Yn 1879, rhoddwyd oriel ar y capel. Yn Adroddiad ar Feddianau y Cyfundeb am 1882 ceir yr hysbysrwydd canlynol. Y nifer all eistedd yn y capel, 365; treuliwyd ar adeiladu ac adgyweirio o ddechreu 1873 i ddiwedd 1880, 420p.; swm y ddyled yn nechreu 1881, 820p.; gwerth y capel a'r eiddo perthynol iddo, 1200p. Y mae, neu yr oedd amryw o dai yn perthyn i'r capel hwn. Y ddyled ar ddiwedd 1889 yw 575p.
Y mae llai o ffeithiau hanesyddol yn perthyn i'r eglwys hon nag odid i un o'r hen eglwysi. Er iddi gael y fantais i gychwyn o flaen holl eglwysi Gorllewin Meirionydd, oddieithr y Penrhyn a Maentwrog, ni bu ei chynydd yn gyfatebol i'w