Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/296

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

breintiau boreuol. Ymddengys fod dau reswm, o leiaf, i'w roddi dros hyn. Yn un peth, fe'i cadwyd yn rhy hir yn Mhen'rallt, lle megis o'r neilldu oddiwrth y boblogaeth, oddeutu dwy filldir oddiwrth dref Harlech. Y rheswm amlwg arall ydyw, ddarfod i'r Bedyddwyr wneuthur cryn gynydd yn y dref yn niwedd y ganrif ddiweddaf a dechreu yr un bresenol. Oddeutu yr un adeg, mae'n wir, y cyfodwyd y capel cyntaf ganddynt hwy ag y cyfodwyd capel cyntaf y Methodistiaid. Ond cafodd y Bedyddwyr ŵr galluog a dysgedig yn weinidog, yn mherson y Parch. J. R. Jones, o Ramoth, yr hwn a ymsefydlodd yn eu plith tua'r flwyddyn 1790. Gwnaeth llafur gŵr o'i fath ef ei ôl ar y wlad; crynhödd y bobl o'i amgylch, fel y gwenyn yn crynhoi o amgylch y cwch. Tra nad oedd gan y Methodistiaid yr adeg hono yr un gweinidog na phregethwr i lafurio yn sefydlog yn y ihan yma o'r wlad.

Y crybwylliad cyntaf am yr Ysgol Sabbothol yn y dref hon ydyw, iddi gael ei dechreu o gylch y flwyddyn 1792; ond dywedir y byddai yr hen batriarch crybwylledig o Ben'rallt yn arfer myned ar hyd a lled yr ardal i ddysgu adnodau i'r trigolion, flynyddau cyn rhoddi cychwyniad i'r sefydliad yn Nghymru. Robert Jones, yr hwn oedd frawd i'r adnabyddus John Jones, o'r Gwynfryn, oedd yn cymeryd gofal y bobl mewn oed, ar gychwyniad yr ysgol, a Morris Griffith, Llwynhwleyn, oedd y cyntaf i ddysgu y plant; er y dywedir nas gallai yr olaf ddarllen gair ei hun, eto bu o wasanaeth mawr i'r sefydliad. Mr. Rees Roberts, yr hwn a roddodd grynhodeb o hanes yr ysgolion yn Ngwyl y Can'mlwyddiant, 1885, a ddywed mai un anfantais fawr i gynydd yr ysgol yn Harlech yn mlynyddoedd ei mebyd oedd, fod y Bedyddwyr Sandimanaidd yn blaid gref yn y dref, a barnent hwy, yn gydwybodol mae'n ddiameu, fod ymgasglu ynghyd ar y Sabbath i ddysgu darllen yn sarhad ar y pedwerydd gorchymyn, ac yn groes i sancteiddrwydd