Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/297

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

dydd yr Arglwydd. Ond daeth y brodyr o'r enwad hwnw yn raddol i weled mai sefydliad daionus a buddiol ydyw yr Ysgol Sabbothol, a bellach er's blynyddoedd, rhoddant hwythau, fel yr enwadau eraill, eu gwyneb o'i phlaid.

Ceir cipolwg ar agwedd yr achos crefyddol yma o gylch y flwyddyn 1840, mewn cysylltiad â gŵr a ymfudodd o'r ardal i America, sef y Parch. David Pugh, Rock Hill, Wisconsin. Ganwyd ef mewn tyddyn gerllaw Harlech yn 1821. Yr oedd ei rieni yn grefyddol, a'i fam yn cael ei rhestru ymhlith y merched duwiolaf. Bu ef ar fedr myned i Athrofa y Bala, ond oherwydd ei fod wedi priodi, ymfudodd i America yn 1846. Mr. T. Lloyd Wiliams, Racine, a rydd yr hanes canlynol: "Yn nyddiau fy ieuenctid, yn fy ardal enedigol, sef Dyffryn Ardudwy, yr oedd enw David Pugh, ieuengaf, Morfa, Harlech, yn enw adnabyddus iawn, am y rheswm fod ei weithgarwch ymhlaid cerddoriaeth a'r Ysgol Sabbothol yn cael ei deimlo drwy y rhandir hono o Sir Feirionydd, sef o afon y Traeth Bach i afon y Mawddwy. Byddai ef ar y blaen. gyda'r holl symudiadau daionus hyn, mewn areithio a hyrwyddo eu llwyddiant. Yn moreu oes David Pugh gwan oedd yr achos, ac ychydig oedd nifer y Methodistiaid yn Harlech, am fod y Bedyddwyr Ysgotaidd, neu fel eu gelwid hwy yno, Bedyddwyr Jones Ramoth,' wedi meddianu bron yr holl boblogaeth; ond bu ef yn offerynol i sefydlu un neu ddwy o Ysgolion Sabbothol mewn lleoedd anghysbell, a gwyr pawb o'i gydnabod pa mor ddebeuig a ffyddlawn y bu dros ei oes gyda y rhan hon o waith yr Arglwydd." Bu y gŵr hwn yn ddiacon yn gyntaf yn America, ac wedi hyny daeth yn bregethwr. Bu farw yn ddiweddar mewn cymeradwyaeth mawr.

Mae y gweddill o hanes yr eglwys, gan mwyaf, yn gysylltiedig â'r personau a fu yn swyddogion ynddi. Griffith Ellis, yr hwn y soniwyd am ei enw amryw weithiau eisoes, sydd yn cymeryd y blaen ar ben y rhestr. Nid yn unig fe fu ef yn