Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/299

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

llaesodd ei feddwl gymaint fel nad oedd ffrwyth ynddo i adrodd ei neges. Ar ol swper, aeth i orphwys am y nos, gan lawn fwriadu traddodi ei genadwri yn y boreu. Ond erbyn y boreu, yr oedd yn wanach nag o'r blaen; ac nid oedd dim i'w wneyd ond dychwelyd adref heb gwblhau ei neges. Cychwynodd tuag adref, ond pan oedd tua haner y ffordd, aeth mor anesmwyth arno, fel un a fuasai anffyddlawn i'r ymddiried a roddasid ynddo, fel na allai fyned yn mhellach. Dychwelodd i'r Bala drachefn, a thraethodd ei genadwri. Derbyniodd Mr. Charles hi gyda hynawsedd, a diolchodd i'r hen ŵr yn wresog a diffuant am ei ffyddlondeb."—Methodistiaeth Cymru, I. 527.

Yr oedd G. Ellis yn hen wr pan y gwnaeth y daith hon i'r Bala. Bu farw, fel y dergys ei gareg fedd yn mynwent Llanfair, Mawrth 30, 1808, yn 74 oed.

Edward Griffith, o'r Tyddyndu, oedd ŵr blaenllaw gyda'r achos yn Harlech y tymor cyntaf, ac yn ol pob tebyg yn un o flaenoriaid yr eglwys. Bu farw Medi 16, 1799, yn 44 oed. Dau eraill a enwir fel blaenoriaid yr un amser ag ef, neu yn fuan ar ei oeddynt Morris Griffith, Llwynhwleyn, a Morris Jones, Fronheulog. Robert Jones, Tŷ Capel, hefyd, yr hwn y crybwyllwyd am dano fel cychwynydd yr Ysgol Sul, oedd yn flaenor y tymor hwn.

EVAN THOMAS, PEN'RALLT

Mab-yn-nghyfraith ydoedd ef i Griffith Ellis; cyrhaeddodd yntau hefyd enwogrwydd fel blaenor. Galwyd ef i'r swydd gan eglwys Harlech, yn y flwyddyn 1826, ac ar ei ysgwyddau ef y gorphwysai bron holl waith yr eglwys am ysbaid o ugain mlynedd. Bu farw Ionawr 18, 1845, yn 75 mlwydd oed. Y Parch. Richard Jones, y Wern, a ddywedai wrth ymddiddan âg ef mewn Cyfarfod Misol yn Harlech,-"Byddai yn dda i'r eglwysi, ie, gwyn eu byd, pe byddai holl flaenoriaid Cymru yn debyg iddo. Er ei fod yn ymddangos yn farwaidd a digalon,