Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/300

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

er hyny, pa bryd bynag y delwyf fi yma, yma y bydd yntau fel y cloc. Gwelwyd llawer blaenor yn meddu dawn ffraeth, a'r achos o dan warth, ond am Evan Thomas, gwan ac ofnus oedd ddeng mlynedd yn ol, a bu llawer cyngrair yn uffern am ei gael i lawr, eto sefyll y mae heddyw."

JOHN LLOYD, ERW-WEN.

Amaethwr cyfrifol, a blaenor o radd dda yn ei amser. Cafodd argyhoeddiad pur amlwg yn amser y Diwygiad Dirwestol, ac ymunodd â chrefydd y pryd hwnw. Etholwyd ef yn flaenor, a daeth yn aelod o'r Cyfarfod Misol yn 1840. Bu farw Tachwedd 16, 1858, yn 68 mlwydd oed. Yr oedd yn ŵr o gyrhaeddiadau pur eang, yn feddianol ar ddawn helaeth, ac wedi trysori i'w gof lawer o hanesyddiaeth gwladol ac Ysgrythyrol. Safai yn uchel yn ei ardal fel gwladwr, ac yr oedd ar y blaen gyda'r Ysgol Sabbothol, ac fel blaenor eglwysig.

HARRY WILLIAM.

Genedigol oedd ef o Sir Gaernarfon. Bu yn gwasanaethu gyda'r Parch. Richard Jones, o'r Wern. Yr oedd yn Gristion ac yn dduwinydd da. Yr oedd yn gyd-flaenor â John Lloyd, Erw-wen.

EDWARD OWEN A GRIFFITH LEWIS.

Derbyniwyd y ddau yn aelodau o'r Cyfarfod Misol, Rhagfyr, 1845. "Holwyd hwy am eu profiadau, eu hegwyddorion, ynghyd a'u teimladau gyda golwg ar eu galwad i'r swydd. Cafwyd hwy yn glir am eu colledigaeth, ond yn ofnus am eu hawl yn Nghrist, a'r iachawdwriaeth sydd ynddo." Yr oedd G. Lewis yn ŵr wedi cael gras mewn modd amlwg iawn. Ymadawodd â'r byd yn y flwyddyn 1852. Bu pwysau y gwaith ar Edward Owen am flynyddoedd lawer. Yr oedd yn ŵr didwyll a chywir, a gwnaeth ei ran yn ffyddlon gyd a