Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/301

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

theyrnas yr Arglwydd Iesu. Symudodd i ardal y Gwynfryn, a neillduwyd ef yn flaenor yno. Bu farw Ebrill 24, 1878, yn 79 oed.

Yn Nghyfarfod Misol Trawsfynydd, Medi 1861, derbyniwyd pedwar yn flaenoriaid yn Harlech,-Mri. Rees Roberts, Owen Roberts, John Lloyd, a H. H. Hughes. Mai, 1867, Mr. Ellis Lloyd, yr hwn sydd yn awr yn flaenor yn Llanfair. Bu Owen Hughes, Morfa, ac yn ddiweddarach, Hugh Owen, Lasynys, yn gwasanaethu y swydd yma-symudodd y ddau o'r ardal. Mawrth, 1873, derbyniwyd William Williams a Robert Davies, a Mawrth, ymhen y flwyddyn, Mr. Edw. Griffith. Bu W. Williams farw yn nechreu 1877.

Y blaenoriaid yn bresenol ydynt-Mri. Daniel Jones, Edward Griffith, Richard Davies, Robert Davies, William Humphreys.

Bu y pregethwr mwyn, y Parch. Daniel Evans, yn byw yn Harlech am o gylch 25 mlynedd. Daeth i drigianu i Benycerig trwy ei briodas. Bu yn cadw ysgol ddyddiol yn y dref, a gwnaeth lawer o ddaioni trwy hyny, yn gystal ag i achos crefydd yn gyffredinol. Treuliodd yr ugain mlynedd olaf o'i oes yn Mhenrhyndeudraeth. Yn awr y mae y Parch. Richard Evans yn gweinidogaethu yma, trwy alwad rheolaidd yr eglwys, er y flwyddyn 1871.

Y daith Sabbath yn 1816 oedd, "Talsarnau, Harlech, a'r Gwynfryn." Bu wedi hyny yn hir gyda Thalsarnau yn unig. Mae yn awr, er y flwyddyn 1866, yn daith gyda Llanfair. Oherwydd yr anfanteision a grybwyllwyd yn flaenorol, araf fu cynydd yr achos yn Harlech. Mewn Cyfarfod Misol a gynhaliwyd yma, yn Rhagfyr 1845, dywedir "mai tra gwywedig oedd yr olwg ar yr eglwys, ac mai golwg galed ac anystyriol oedd ar y gwrandawyr a ymgynullent yn y lle." Ond yn awr y mae gwedd fwy siriol ar bethau, a chynydd graddol wedi bod er amser diwygiad 1859. Cangen wedi ymneillduo oddi-