Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/302

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yma ydyw yr eglwys yn Llanfair. Cynhaliwyd yma un Gymdeithasfa Chwarterol, sef yn mis Ebrill, 1882. Pregethwyd ar hyd y dydd olaf yn y Castell. Swm holl dreuliadau ei dygiad ymlaen oedd 82p. 15s. 10c. Nifer presenol y gwrandawyr, 360; cymunwyr, 138; Ysgol Sul, 219.

ABERMAW

Yr hanes credadwy am ddechreuad crefydd yn Abermaw a roddwyd trwy enau yr Hybarch John Evans, o'r Bala, wrth yr enwog Charles o'r Bala, ac a ymddangosodd yn y Drysorfa Ysbrydol, Rhagfyr, 1810. Y mae fel y canlyn:—"Hysbysais i chwi am hanes dechreuad crefydd yn Nolgellau o'r blaen; rhoddaf yn awr ychydig o hanes am Abermaw. Ynghylch y flwyddyn A. D. 1767, daeth un Henry Richard, gwr o Sir Benfro, i gadw Ysgol Rad Mrs. Bevan, fel y galwent hi, i blwyf Llanaber; ond ni chafodd aros yno ond ychydig o amser oherwydd ei grefydd, ac y bernid ef yn tueddu at Fethodistiaeth. Y rhai cyntaf yr ymwelodd yr Arglwydd â'u meddwl yn Abermaw oedd teulu Robert Griffith. Yn gyntaf â'i wraig, wedi hyny â'u mab-Hugh Griffith, ac â'i dad Robert Griffith, hwn oedd ŵr siriol, tirion, ac i bob tebygolrwydd yn wr duwiol cyn ei farw, yr hyn a ddigwyddodd A. D. 1775. Yr oedd iddynt ferch fechan hefyd, â rhyw arwyddion neillduol o dduwioldeb ynddi yn ei mabandod; bu farw yn naw oed (A. D. 1781) a'i meddwl yn gysurus gan lawenhau yn yr Arglwydd. Eu mab Hugh a fu yn yr ysgol gyda Henry Richard dros yr ychydig amser y goddefwyd ef yno, a glynodd ei gynghorion dwys a'r addysgiadau addas a gafodd, yn hynod yn ei feddwl, ac ymddangosodd arwyddion neillduol o dduwioldeb ynddo tra y bu byw. Er mai bachgenyn ieuanc oedd, eto yn ei symlrwydd, ei ddeall, ei brofiad, a'i ofal am achos yr efengyl, yr oedd yn hynafgwr. Yr oedd yn llafurus iawn.