Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/303

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

am gael pregethu yr efengyl i'r lle; teithiai yn aml lawer o filldiroedd, i Langeitho neu ryw le arall, i gymell pregethwyr i ddyfod yno. Yr oedd ei holl ymddygiad yn syml ac yn sobr, a'i ymddiddanion yn ddifrifol, ac am bethau ysbrydol. Byddai yn cadw cyfarfodydd i weddio gyda'r ychydig fyddai yno yn caru y cyfryw waith, yn ymddiddan â hwynt am achos eu heneidiau, ac yn eu cynghori yn ddwys ac yn ddifrifol, yn ol y doniau bychain oedd ganddo. Ei ffyddlondeb a'i ddifrifwch oedd fawr, ac yn esiampl hynod i eraill i'w dilyn. * * Achos yr Arglwydd oedd gofal penaf y bachgenyn hwn yn ei holl fywyd; felly yr oedd hefyd ar ei wely angau. Yr oedd yn ei ddyddiau diweddaf yn trefnu gyda'i fam, pa fodd oedd oreu i ddwyn yr achos ymlaen, a gadawodd yr hyn oedd ganddo o arian (yr oedd ganddo ychydig bunau) ag ewyllys arnynt, tuag at adeiladu capel yn y dref; yr hyn a wnaed ychydig flynyddoedd wedi iddo farw. Bu farw A. D. 1776, yn y bymthegfed flwyddyn o'i oed. Fel hyn, yr oedd y dechreuad yno, fel yn llawer man arall, yn fychan iawn, a'r offerynau yn wael, a'r gwrthwynebiadau yn fawrion; eto yr achos, er y pethau hyn oll, yn llwyddo.

SCRUTATOR (Mr. Charles): A fu llawer o wrthwynebiad i bregethu yr efengyl yn Abermaw?

SENEX (John Evans): Do; bu yno gryn wrthwynebiad, ond dim llawer o erlid. Cafodd un llefarwr ei rwystro i bregethu, yr wyf yn meddwl, trwy derfysg a chythrwfl.

SCRUTATOR (Mr. Charles): Pwy fu yno yn pregethu gyntaf, os gwyddoch?

SENEX (John Evans): Nid wyf yn cofio yn neillduol o fanwl am hyny. Byddai brodyr Mrs. Griffith, tri o offeiriaid duwiol, yn dyfod yno ar amserau; tra yr arosent, byddai gweddi deuluaidd yn cael ei chadw hwyr a boreu; a byddai amryw o'r cymydogion yn dyfod yno i wrando y gair yn cael ei ddarllen, a'i eglurhau, ac i ymuno mewn gweddi. Am eu bod