Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/304

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn wyr eglwysig, ac o ddygiad rheolaidd i fyny, hawsach fyddai gan bawb ddyfod i wrando arnynt hwy nag ar y gwŷr diurddau. Byddai Mr. Benjamin Evans, gweinidog yr Ymneillduwyr yn Llanuwchllyn, yn dyfod i bregethu yn lled agos i'r dref yn aml yn y dyddiau hyny. Byddai brodyr crefyddol o Sir Gaernarfon, ar eu teithiau, yn l'etya yno weithiau, ac yn arfer darllen a gweddio yn y tai lle y byddent yn cysgu. Bu hyny yn foddion bendithiol, ac ydynt yn anogaethol i bawb ddilyn yr un esiampl lle bynag y byddont yn digwydd bod. William Evans, o'r Fedw Arian; Mr. John Harries, o'r Deheudir; John Pierce, a Robert Jones, o Roslan, y pryd hwnw oeddynt gyda y rhai cyntaf a fu ynpregethu yno. Hyd ag yr wyf yn cofio, bu William Evans a Robert Jones mor ffyddlawn a llafurus a neb yn eu hymdrechion i bregethu mewn lleoedd tywyll annuwiol ymhen uchaf y sir hon. Gwyr oeddynt wedi eu cynysgaeddu â doniau derbyniol gan y wlad i'w gwrando, a thra defnyddiol er lleshad i eneidiau dynion tywyll ac anystyriol. Fel hyn, o fesur ychydig ac ychydig, yr aeth y gwaith rhagddo yn raddol, heb ddim tywalltiadau neillduol-fel gwynt nerthol yn rhuthro-nac yn Nolgellau na'r Abermaw."

Cafwyd yr hanes uchod o'r ffynhonell oreu, oddiwrth y ddau ŵr mwyaf hyddysg yn hanes crefydd Sir Feirionydd hyd ddiwedd y ganrif ddiweddaf, a'r dong mlynedd cyntaf o'r ganrif bresenol. Ac mae pobpeth a ddiferodd dros wefusau Mr. Charles, a John Evans, o': Bala, mewn ystyr hanesyddol, yn werth ei groniclo. Mor fychan oedd y dechreuad yn Abermaw! Ac eto perthynai yr un a fu yn foddion yn llaw rhagluniaeth i ddechreu yr achos Methodistaidd yma i gysylltiadau enwog. Tad oedd yr Henry Richard a fu, dros dymor byr, yn cadw ysgol rad Mrs. Bevan, i'r Parchn. Ebenezer a Thomas Richards, a thaid i'r apostol heddwch, y diweddar Henry Richard, A.S. Ysgolfeistr gwir grefyddol oedd hwn, fel llawer un arall yn yr oes hono. Dywedir y byddai y fath