Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/305

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

dywalltiadau weithiau gyda'i weddiau yn yr ysgol dros y plant, "nes y byddai pob un o honynt yn gwaeddi, ac yn wylo fel cawodydd o wlaw." Amlwg ydyw i ddyfodiad y gŵr hwn i blwyf Llanaber ateb diben rhagorol, gan i'r had a syrthiodd i'r ddaear mewn canlyniad i'w lafur ddwyn ffrwyth toreithiog. Y teulu y dywedir i grefydd gyffwrdd â'u meddwl gyntaf ydoedd teulu un Robert Griffith: ei wraig a enillwyd gyntaf, wedi hyny eu mab Hugh Griffith, a thrachefn Robert Griffith ei hun. Glynodd y cynghorion a gafodd y mab, tra yn yr ysgol gyda Henry Richard, gymaint yn ei feddwl nes bod yn foddion i ddwyn pethau rhyfedd oddiamgylch. Nid oedd ond bachgen bychan chwech oed ar y pryd, ac ni fu byw ond naw mlynedd ar ol hyn; ond yn yr ysbaid hwn o amser ymddangosodd arwyddion amlwg o dduwioldeb ynddo. Gwisgodd ei dduwioldeb ffurf o weithgarwch anghyffredin ; elai cyn belled a Llangeitho i chwilio am bregethwr i ddyfod i Abermaw; cynlluniai gyda'i fam i ddwyn yr achos ymlaen; gadawodd arian yn ei ewyllys i adeiladu capel. Ac eto yr oedd yn marw yn bymtheg oed! Buasai yr hanes yn anghredadwy onibai mai John Evans, o'r Bala, a'i hadroddodd, yr hwn yn ddiameu oedd yn ei adnabod yn bersonol yn dda, ac yn gwybod yr holl hanes cysylltiedig âg ef.

Crybwyllir yn yr hanes hwn a ddyry John Evans, o'r Bala, i Mr. Charles, y byddai y Parch. Benjamin Evans, gweinidog yr Ymneillduwyr yn Llanuwchllyn, yn dyfod yn aml i bregethu yn agos i'r Abermaw y dyddiau hyny. Yn ol pob hanes a geir, y gŵr hwn oedd yr Ymneillduwr cyntaf a bregethodd, o leiaf gyda dim cysondeb, yn mhlwyf Llanaber. Fe gofia y rhai a ddarllenodd y gyfrol gyntaf o'r hanes hwn, ddarfod iddo ef drwyddedu Cegin Maesafallen i bregethu yr efengyl ynddi. Mae yr amser y bu ef yn dal y drwydded hon yn ateb yn hollol i'r adeg y bu Henry Richard yn cadw ysgol yn y rhan arall o'r plwyf, sef rhwng 1770 a 1777: Gŵr o Sir