Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/306

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Benfro hefyd oedd Cadben Dedwydd, preswylydd a pherchenog Maesafallen, yntau yn Ymneillduwr, ac o dueddiad crefyddol. Diau i ddyfodiad yr efengyl i'r ffermdy neillduedig hwn fod yn foddion i enyn rhyw gymaint ar y tân yn Abermaw. Cadarnheir hefyd, trwy grybwylliad byr, yn yr hanes a ddyfynwyd, un ffaith hanesyddol arall, sef y byddai brodyr crefyddol o Sir Gaernarfon ar eu teithiau yn lletya yn y dref weithiau, ac yn arfer darllen a gweddio yn y tai lle y byddent yn cysgu. Brodyr crefyddol ar eu teithiau yn ol a blaen i Langeitho oedd y. rhai y cyfeirir atynt. Ychydig sydd o hanes y cyfryw finteioedd yn tramwy trwy y parthau hyn heblaw y crybwylliad uchod, ynghyd a'r hanes dyddorol a ddyry Robert Jones, Rhoslan, am y fintai o 45 yn myned trwodd yn y flwyddyn 1774, pryd yr aeth y tŷ y rhwystrwyd iddynt gael llety ynddo ar dân [Cyf. I., tudal. 39]. Trwy ysgolfeistr ac un o'i ysgolheigion, fel y gwelir, y dechreuodd crefydd gyda'r Methodistiaid yn Abermaw, ac yn raddol, trwy gasglu marworyn at farworyn, aeth yr achos yn ei flaen. Cafodd y crefyddwyr cyntaf lawer o rwystrau; ond ni bu yma erlid mor ffyrnig ag a fu yn Nolgellau, na thywalltiadau grymus nerthol megis ag yn y Bala, a manau eraill.

Un hanesyn yn unig o natur gyffrous am erledigaeth, a gymerodd le yn y dref hon, sydd wedi cyraedd i lawr i'n hamser ni. Trwy gyfrwysdra a doethineb, modd bynag, aeth yr erlid heibio heb wneuthur nemawr niwed y tro hwnw. Yr oedd pregethwr, a thybir mai Mr. Benjamin Evans ydoedd, wedi addaw pregethu wrth oleuni dydd, ar y gareg-farch (horse-block), yn ymyl drws y Shopfawr, ac yr oedd son am y bregeth wedi ymdaenu ar led, a'r teulu erledigaethus wedi parotoi i wneuthur ymosodiad penderfynol ar y pregethwr. Ofnid gan y crefyddwyr y byddai i'r moddion gael eu dyrysu, ac y cai y pregethwr ei niweidio. Ond cyn i amser yr odfa ddyfod, galwodd Mrs. Griffiths, gwraig y Siop, ar un o'r meddwon a'r