Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/307

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ymladdwyr penaf yn y dref, a gwnaeth gytundeb âg ef i gadw chwareu teg i'r pregethwr. Addawodd ddiod iddo cyn dechreu ac ar ol y cyfarfod os gwnai hyn, ac i eraill hefyd o gyffelyb nerth corfforol. Derbyniwyd y telerau yn union gan yr ymladdwyr cryfion. Diwrnod yr odfa a ddaeth, ond erbyn i'r pregethwr ddyfod allan o'r tŷ, daeth Cadben Dedwydd, preswylydd a pherchenog Maesafallen allan, ac â llais clir, nerthol, gwaeddodd, "Gosteg, fy anwyl gymydogion, diwrnod pwysig iawn yw hwn yn y Bermo, fe fydd trin a chyfrif am bobpeth yma heddyw yn y farn fawr, pan fyddo'r meirw yn dyfod allan yn fyw o'u beddau, a'r ddaear yn wenfflam bob modfedd o honi, ac yn awr y mae gwas yr Arglwydd yn myned i ddweyd wrthym ni pa fodd i fod yn ddiogel yn y diwrnod ofnadwy hwnw.[1] Trwy y moddion hyn o eiddo Mrs. Griffith a'r Cadben Dedwydd, cafodd y pregethwr lonydd i fyned yn ei flaen.

Mae y darllenydd wedi sylwi mai blaenffrwyth yr eglwys hon oedd teulu y Siop fawr-Robert Griffith, ei wraig, a'u mab. Bu y tad farw yn y flwyddyn 1775, a'r mab y flwyddyn ganlynol, a chan y dywedir fod y mab "yn ei ddyddiau diweddaf yn trefnu gyda'i fam pa fodd oedd oreu i ddwyn yr achos ymlaen," gallwn gasglu fod yr achos mewn rhyw ffurf wedi dechreu y flwyddyn uchod. Disgynodd y baich o ddwyn yr achos ymlaen bellach ar ysgwyddau Mrs. Griffith, yr hon oedd yn weddw, a mawr y nodded a fu hi i achos y Cyfryngwr yn y dref. Yr oedd hi yn meddu crefydd o radd uchel, ac yr oedd yn wraig ddoeth a haelionus. Yr oedd hefyd wedi troi mewn awyrgylch grefyddol-ei gŵr, a'i mab, a'i merch, yn grefyddol y pryd hwn, ac yr oedd iddi dri o frodyr duwiol yn weinidogion yn yr Eglwys Sefydledig, y rhai a arferent pan yn ymweled â hi gadw y weddi deuluaidd hwyr a boreu. Ymunai y cymydogion hefyd yn y ddyledswydd deuluaidd.

  1. Hanes Eglwysi Annibynol Cymru, I., 470.