Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/308

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Y symudiad nesaf a gawn yn yr hanes ydyw adeiladu capel. Pa bryd y gwnaed hyn? Effeithiodd cynlluniau rhyfedd y bachgen ieuanc yn ddwys ar feddwl ei fam, a phenderfynodd hi roddi ei ddymuniad mewn gweithrediad. Bu ef farw 1776, a dywedir i'r capel gael ei adeiladu ymhen ychydig flynyddoedd wedi hyny. Adeiladwyd capel Abermaw felly o gylch 1780, ac efe oedd yr ail gapel yn Ngorllewin Meirionydd. Adeiladwyd ef ar dir oedd yn eiddo i Mrs. Griffith, Siop fawr, a'i wyneb tua'r môr, ar fin y lle y mae y rheilffordd yn awr yn myned trwyddo. Mr. Robert Evans, o Drefriw, yr hwn oedd yn byw ar y pryd heb fod nepell o'r Abermaw, mewn nodiadau a ysgrifenwyd ganddo, ac a anfonwyd i'w cyhoeddi yn Methodistiaeth Cymru, a ddywed fel y canlyn am yr amgylchiad, "Pan ddaeth yr amser i adeiladu y capel, daeth y bwriad i glustiau Mr. Wynne, Maesneuadd (gŵr bonheddig yn byw yn y gymydogaeth), a theimlodd yn dramgwyddedig iawn; dywedai wrth Mrs. Griffith os elid ymlaen a'r capel, y collai hi holl gwsmeriaeth Maesneuadd. Yr oedd hyn yn brofedigaeth chwerw i'r wraig weddw, am fod yr hyn oll â äi at wasanaeth y tŷ yn cael ei brynu yn ei siop hi. Ond yr oedd wedi eistedd i lawr a bwrw y draul, a hi a'i hatebodd yn bwyllog ac arafaidd, trwy ddiolch iddo yn fawr am yr holl sirioldeb a gawsai oddiar law y teulu, a dweyd mor ddrwg oedd ganddi golli ei gwsmeriaeth; eto fod yn well ganddi golli hyd yn nod hyny, na cholli ei henaid; ac mai myned ymlaen fyddai raid i'r capel. Ond gofalodd rhagluniaeth am y wraig gydwybodol hon, fel na chollodd hi ddim trwy y tro. Parhaodd y teulu i ddelio â hi yr un fath wedi adeiladu y capel ag o'r blaen. Byddai rhai o'r boneddigesau yno yn dra mynych, ac os digwyddai iddynt ddyfod oddeutu amser y weddi deuluaidd, ni wnai Mrs. Griffith ddim gwahaniaeth, ond elai ymlaen fel arferol. Yr oedd yn olwg tra nodedig gweled y boneddigesau yn foesgar benlinio gyda'r teulu, i wrando ar y wraig dduwiol