Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/309

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn gweddio." Gwraig rinweddol y Siop fawr fu a'r llaw benaf mewn adeiladu capel cyntaf Abermaw. Ar ei thir hi y cyfodwyd ef; ei harian hi, ynghyd ag arian a adawyd trwy ewyllys ei mab ieuanc oedd y rhai cyntaf a fwriwyd i'r Drysorfa tuag at ddwyn y draul. O ba le y caed y gweddill nid yw hysbys. Cyfranwyd y symiau canlynol gan y Gymdeithasfa,—"Cymdeithasfa y Bala, Mehefin, 1785, talwyd i Abermaw 10p." "Cymdeithasfa Llanrwst, Ebrill 1786, talwyd i Abermaw 10p." "Cymdeithasfa y Bala, Mehefin 17, 1789, talwyd i glirio capel yr Abermaw 13p. 13s." Dichon i ychwaneg o symiau gael eu cyfranu o ryw ffynhonellau eraill, y tuallan i'r dref; modd bynag, cliriwyd y capel y flwyddyn grybwyll edig, ac hyd yma y cyrhaedda ei hanes.

PARCH. JOHN ELLIS, ABERMAW.

Yr oedd ef yn oesi yn agos i ddechreuad yr achos yn y dref, gan hyny daw crybwyllion am dano yn fwy rheolaidd yn awr. Ganwyd ef yn mhlwyf Ysbytty, a chafodd ei ddwyn i fyny yn mhentref Capel Garmon, mewn tlodi, oferedd a llygredigaeth, heb neb yn gofalu am dano o ran mater ei enaid, mwy na phe buasai heb un enaid. Pan o gylch deuddeg oed cafodd ychydig ysgol. Wedi hyny dechreuodd ddysgu erefft cylchwr (cooper), a gorphenodd ei dysgu yn Llanrwst. Trwy wrando yno ar un Robert Evans yn pregethu, effeithiodd y bregeth arno nes ei dueddu i fyned i wrando yr efengyl drachefn. Symudodd oddiyno i Ffestiniog i weithio, a bu yn y lle hwn yn dilyn pob oferedd, gan roddi rhaff i'w nwydau pechadurus. Aeth i wrando yr efengyl gydag un o'i gydweithwyr, ac ymwelodd yr Arglwydd âg ef drachefn mewn modd neillduol, trwy ei sobri a'i ddifrifoli yn fawr. Mewn canlyniad i hyn ymddygodd ei dad yn ddigllawn tuag ato. Oherwydd creulondeb ac ymddygiad chwerw ei dad, gadawodd Ffestiniog heb wybod i ba le yr elai. Arweiniwyd ef gan ragluniaeth i Lanbrynmair,