Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/310

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

lle yr arhosodd dros saith mlynedd yn gweithio ei grefft fel cylchwr. Ymhen y mis wedi cyraedd yno ymunodd â chrefydd gyda'r Methodistiaid Calfinaidd. Yr oedd yr amser hwn mewn trallod mawr ynghylch mater ei enaid, ac wrth wrando ar Mr. Richard Tibbot y llewyrchodd goleuni dwyfol ar ei feddwl, ac y cafodd dawelwch i'w gydwybod. Bu ei arosiad yn Llanbrynmair, mewn ystyr grefyddol, yn fendithiol iawn iddo. Yr oedd crefydd wedi hen wreiddio yn yr ardal hon, a chafodd yntau, am yr ysbaid o saith mlynedd yn nechreu ei oes, y fraint anrhaethol fawr o droi mewn awyrgylch grefyddol. Tra yn aros yma, priododd ferch ieuanc grefyddol oedd yn aelod o'r un eglwys âg ef. Symudodd o Lanbrynmair i Lanrwst drachefn, ac oddiyno yn ol i Ffestiniog. Ac wedi cyfarfod, medd yr hanes, â rhagluniaethau cyfyng, anogwyd ef i fyned i gadw yr ysgol rad deithiol o dan arolygiaeth Mr. Charles, o'r Bala. "Bu peth petrusder ynghylch ei gyflogi i hyny, oherwydd ei ddieithrwch i'r gwaith, a'i anfedrusrwydd oherwydd hyny i'r fath orchwyl. Ond ar daer ddymuniad y brodyr yn eglwysi Ffestiniog a Thrawsfynydd, anturiwyd ei gyflogi, gan obeithio y cai gymorth yn y gwaith, a'i addysgu ei hun tra y byddai yn llafurio i addysgu eraill. Felly y bu. Yr oedd yn ŵr o dymer dirion, serchiog, ac enillgar; yn trin y plant yn dirion, ac yn eu henill trwy gariad." Troes John Ellis allan yn un o ysgolfeistriaid mwyaf llwyddianus Mr. Charles. Yr oedd yn meddu ar y tri pheth hanfodol yr amcenid eu cael yn yr ysgolfeistriaid a gyflogid at y cyfryw orchwyl-duwioldeb, gallu i ddysgu, a chymeriad disglaer i adael argraff dda ar yr ardaloedd lle cynhelid yr ysgol. Y mae lle i feddwl iddo ef fod o fendith fawr yn y gorchwyl hwn, trwy enill ieuenctyd a llawer eraill at grefydd, a chafwyd y bu ei goffadwriaeth yn anwyl dros hir amser mewn llawer ardal y yn aros ynddi. "Nid hir y bu, wedi dechreu cadw yr ysgol, heb gael ei gymell gan y brodyr crefyddol i