Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/311

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

arfer ei ddawn i gynghori ychydig yn gyhoeddus; ac fel yr oedd ei ddawn yn cynyddu, a'r Arglwydd yn gwneyd arddeliad o hono, rhoddwyd galwad mwy iddo, nes gwedi bod wrth yr ysgol, a symud o le i le yn mharthau uchaf Swydd Meirion dros ddeng mlynedd, ac ar yr un pryd yn pregethu yn aml, rhoddodd heibio yr ysgol yn llwyr, ac ymroddodd i lafurio yn y gair, gan bregethu yn ddyfal trwy holl barthau Deheudir a Gwynedd, hyd ddydd ei farwolaeth. Yr oedd yn ŵr goleu yn yr Ysgrythyrau, cadarn yn athrawiaeth gras yn ei hamrywiol ganghenau; yn ŵr ysbrydol o ran ei brofiad o bethau Duw, syml a diargyhoedd yn ei rodiad."

Pa beth a'i harweiniodd i wneyd ei gartref yn Abermaw, nis gwyddom. Ond daeth yno rywbryd rhwng 1785 a 1787, a dechreuodd bregethu oddeutu yr un adeg. Oddeutu pum mlynedd ar hugain y parhaodd ei oes fel pregethwr; gwnaeth argraff dda ar y wlad yn yr amser hwnw, ac y mae coffa da am dano yn Sir Feirionydd yn awr, ymhen can' mlynedd ar ol ei farw. Dywediad Mr. Humphreys, o'r Dyffryn, am dano ydoedd, "Yr oedd John Ellis, y Bermo, yn HYPER-Calvin mewn athrawiaeth, ac yn moral agent yn ei fuchedd a'i rodiad yn y byd." Oddiwrth amryw o'i lythyrau a'i gynghorion i'w deulu ac i'r eglwys yn ei ddyddiau diweddaf, gwelir yn amlwg ei fod yn meddu crefydd uwch na'r cyffredin o ddynion. Dygodd ei deulu i fyny yn grefyddol; y mae wyr iddo yn flaenor ffyddlawn gyda'r Methodistiaid hyd heddyw, sef Mr. John Timothy, Einion House, Vriog. Bu farw yn Awst, 1810, yn 52 mlwydd oed. Ymddangosodd byr gofiant iddo yn y Drysorfa Ysbrydol, ddwy flynedd cyn marw Mr. Charles. Cafodd John Ellis ei ran o erledigaeth yr oes yr oedd yn byw ynddi, a gorfu iddo gael amddiffyn y gyfraith i'w gadw rhag yr erlidwyr. Mae y drwydded wreiddiol a gafodd, ar gael gan ei deulu yn awr, wedi ei hysgrifenu ar groen, ac wedi ei harwyddo gan y swyddog gwladol yn Llys Sirol y Bala, yn