Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/312

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

mis Gorphenaf, 1795, blwyddyn fythgofiadwy yr erledigaeth fawr yn Sir Feirionydd. Wele gopi o honi,—

"Thomas A Beckett Sessions.
Merioneth
To wit.:

This is to certify that John Ellis of Barmouth, in the County of Merioneth, hath this seventeenth day of July, One thousand seven hundred and ninty five, in open Court at the General Quarter Sessions of the Peace held at Bala in and for the said County, before Rice Anwyl and Thomas Davies Clerks, being Justices assigned to keep the peace in and for the said County, taken the usual oath and subscribed the Declaration to qualify himself as a Protestant Dissenting Preacher and Teacher according to the Act of Parliament in that case made and provided———

EDWARD ANWYL
Dpt. Clk. of the Peace."

Ymhen rhyw gymaint o amser ar ol y flwyddyn uchod, bu y drwydded hon o wasanaeth mawr i John Ellis, pan y dygwyd ef gan y swyddogion gwladol o flaen maer Croesoswallt. Yr oedd hen chwaer grefyddol a hynod o'r enw Susan yn byw yn Nghroesoswallt. Gwahoddodd hon John Ellis i ddyfod yno i bregethu. Yntau a ufuddhaodd; a phan ddaeth y diwrnod yr oedd canoedd o ddynion, y rhai oeddynt ddyhirwyr cyhoeddus y dref, wedi ymgasglu i wneyd ymosodiad ar y pregethwr. Yn fuan, pa fodd bynag, wedi i'r moddion ddechreu, dyma ddyn yn dyfod i mewn, ac yn myned yn syth at y pregethwr, gan crchymyn iddo yn awdurdodol i ddyfod i lawr, a dyfod gydag ef o flaen maer y dref. Dangosai y pregethwr ar y cyntaf radd o anfoddlonrwydd i ufuddhau i'r cais; ond ar waith y swyddog yn bygwth 'tori ei ben' â'i ffon, oni ddeuai yn y fan, efe a aeth. Ar ei ymddangosiad yn yr heol dan ddwylaw yr heddgeidwad, fel pe buasai leidr neu lofrudd wedi ei ddal, dyma'r floedd fawr o fuddugoliaeth