oddiwrth yr haid gynhyrfus ag oeddynt yn disgwyl am dano, a churo padelli ffrio, a phob offer trystfawr o'r fath, i'r diben o roddi hyny o flinder a sarhad ag a allent ar y crefyddwyr.
O flaen y maer yr aed, ac yno y bu yr arholiad a ganlyn:—
'Paham y dygasoch y gŵr yma ataf fi?' gofynai y maer.
'Ni a'i cawsom ef yn pregethu mewn tŷ anedd yn y dref," ebe'r swyddog.
Ar hyn galwyd Susan ymlaen, gan mai yn ei thŷ hi y bu y peth anferth hwn, a gofynwyd iddi,-
Ai yn eich tŷ chwi yr oedd y gŵr hwn yn pregethu?'
'Ie, Syr,' ebe Susan.
A ydyw eich tŷ chwi wedi ei gofrestru i hyny yn ol y gyfraith?'
'Ydyw, Syr.'
A oes gan y pregethwr drwydded i bregethu?'
'Oes, Syr.'
Ar hyn dangoswyd y drwydded i'r maer, a chafwyd boddlonrwydd fod pobpeth wedi ei wneyd yn ol y gyfraith. Yna, gyda gradd o awdurdod a llymder, gorchymynodd i'r swyddog arwain y pregethwr i'r tŷ yn ei ol, a gofalu am ei roddi yn y man y cawsai ef."[1] Y drwydded uchod, fel y gwelir hi heddyw wedi ei hysgrifenu ar groen, a estynwyd o law y pregethwr i law maer y draf, yn ei lys cyfreithiol, yn agos i gan' mlynedd yn ol. Ychwanegir yn yr hanes hefyd, mai hon oedd yr odfa gyntaf erioed gan y Methodistiaid Calfinaidd Cymreig yn nhref Croesoswallt."
BLAENORIAID YR EGLWYS Y CYFNOD CYNTAF.
JOHN GRIFFITH, SIOP FAWR.
Dygwyd ef i fyny mewn teulu crefyddol, yr hwn hefyd, fel y gwelwyd, oedd y prif deulu i gychwyn yr achos yn
- ↑ Methodistiaeth Cymru, I., 375