Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/315

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

cael ymweliadau grymus iawn ar amserau trwy air o'r Beibl. Yr oedd wedi cychwyn unwaith am dro yn hwyr y dydd, a daeth y gair hwnw i'w feddwl, "Os gwasanaetha neb fi, y Tad a'i hanrhydedda ef," ac efe a aeth am filldiroedd o ffordd, gan fyfyrio ar yr adnod, heb ystyried i ba le yr oedd wedi myned. Ni chawsom wybod byd yr amser y bu yn gwasanaethu swydd blaenor, na pha bryd y bu farw.

CADBEN WILLIAM GRIFFITH, Y CEI.

Yr oedd Rhagluniaeth wedi ei godi ef yn uchel o ran cyfoeth a da y byd hwn. Gadawodd y môr tua chanol oed, a bu o wasanaeth mawr i grefydd, nid yn Abermaw yn unig, ond trwy yr oll o gylch Cyfarfod Misol Sir Feirionydd. Bu gofal casgliadau a phethau eraill o bwys mewn cysylltiad â chapeli y sir arno ef am dymor hir. Yr oedd ei gysylltiadau yn fwy adnabyddus na llawer, gan mai merch iddo ef oedd priod gyntaf y Parch. Richard Humphreys, o'r Dyffryn. Yr oedd ynddo gymhwysderau arbenig i'r swydd o flaenor; meddai raddau helaeth o synwyr naturiol fel dyn, ac yr oedd yn un mawr mewn gras a duwioldeb. Byddai yn llawn llygad gyda holl waith yr eglwys; yn gofalu am arian yr eglwys a'r gynulleidfa; yn cadw agoriad y capel, ac yn ofalus am amser dechreu a diweddu; yn cynllunio i roddi pobl ieuainc newydd gael eu derbyn mewn gwaith. Oherwydd ei bwyll a'i ddoethineb, a'i weithgarwch gyda'r holl waith, meddai ddylanwad anghyffredin. Nid oedd ganddo ddawn mawr, ond beth bynag a ddywedai a fyddai yn sicr o fod i'r pwrpas. Ar ddiwedd seiat unwaith gofynai i un Dafydd Evan ddiweddu trwy fyned i weddi. 66 Dydi o ddim wedi ei dderbyn," ebe blaenor arall o natur dipyn yn ddreng. "Fedrwch chwi weddio Dafydd Evan?" ebe Cadben Griffith. "Medraf," ebe Dafydd Evan. "Wel, gweddiwch chwithau yrwan." Mewn ffordd ddigwmpas fel yna gwnelai ei waith yn ddidrwst ac yn ddilol. Yr oedd y