Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/316

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Cei yn un o dri neu bedwar o dai a fu yn enwog yn Abermaw fel llety fforddolion. Ychydig dros ddeng mlynedd ar hugain yn ol, yno y cyfarfyddai gweinidogion y gair â'r cartref mwyaf cysurus. Bu Mrs. Griffith yn cadw y tŷ yn agored ar ol dydd ei phriod hyd ddiwedd ei hoes hithau. Yn Nghofnodion Cyfarfod Misol Hydref, 1847, ceir y sylw canlynol:—"Crybwyllwyd am farwolaeth Cadben William Griffith, yr hwn oedd yn flaenor parchus yn Abermaw, a dywedwyd mai mab tangnefedd' ydoedd."

EDWARD EDWARDS.

Genedigol oedd ef o Lanegryn, ond symudodd i fyw i'r Abermaw. Ei hynodrwydd oedd ei ofal a'i ffyddlondeb gyda chrefydd yn ei holl ranau. Cafodd ei ddal gan gystudd am hir amser, a bu farw yn orfoleddus, yn llawn o ddiddanwch yr iachawdwriaeth.

MOSES ELLIS.

Mab ydoedd ef i John Ellis, y pregethwr. Cydgyfarfyddai llawer o'r rhinweddau sydd yn angenrheidiol i lenwi swydd blaenor ynddo. Yr oedd yn ŵr cadarn yn yr Ysgrythyrau. Bu yn Deptford, yn Nockyard y Llywodraeth, pan yn ddyn ieuanc, tra yr oedd y Parch. James Hughes yno, a bu cymdeithas y gweinidog parchedig yn fantais fawr iddo. Daeth adref i'r Abermaw, a chyn hir dewiswyd ef yn flaenor, yr hon swydd a lanwodd gydag anrhydedd. Manteisiodd yr eglwys yn fawr trwy gael dyn o'i fath ef i'w blaenori: yr oedd yn ymresymwr cryf, yn ŵr llariaidd, yn un y gellid ymddiried iddo gyfrinach, a mawr ei hunan-ymwadiad. Byddai ôl bod gyda Duw arno yn y cyfarfod eglwysig, a'r moddion cyhoeddus. Cafodd ei daflu i bair cystudd, ac fel ei dad duwiol, bu yntau farw yn orfoleddus, Mai 4, 1810. Gorphenwyd talu am y capel cyntaf, fel y gwelwyd, yn 1789. Adeiladwyd yr ail gapel heb fod yn neppell oddiwrth