Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/317

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

y cyntaf, ond yn nes i'r afon, ac fe gofia y rhai a arferai addoli yn hwnw y byddent yn gorfod myned iddo yn aml trwy domenydd o dywod fel trwy luwchfeydd o eira. Dyddiad y weithred am y capel hwn ydyw Tachwedd 1af, 1824. Dywed rhai er hyny ei fod wedi ei adeiladu gryn lawer yn gynt na hyn. Eisteddai ynddo 300, ac yr oedd arian yr eisteddleoedd yn y flwyddyn 1850 yn 17p. 4s. 8c. Nid oes hanes am ei ddyled yn cael ei chasglu na'i thalu. Yn 1845 yr oedd yn gwbl ddiddyled, a'r flwyddyn hono fe ddarfu y brodyr yn y Cyfarfod Misol osod 100p. ar gapel Abermaw, er mwyn cael arian i glirio rhyw gymaint o'r ddyled drom oedd ar gapeli Dosbarth Ffestiniog. Ymhen deng mlynedd wedi hyn, sef yn 1855, prynwyd tir yn Llanaber i adeiladu capel y Parcel arno, am yr hwn y talwyd 10p. Yr oll o'r draul i'w adeiladu oedd oddeutu 100p., ac yn ol cyfrifon yr eglwys talwyd y rhai hyn y flwyddyn ddyfodol. Pregethwyd y bregeth gyntaf ynddo am ddau o'r gloch Sabbath, Mehefin 1af, 1856, gan y Parch. Francis Jones, yn awr o Abergele. Yr oedd moddion yn cael eu cynal yma, sef Ysgol Sul, a chyfarfod gweddi, ac ambell odfa, er's llawer o flynyddoedd cyn adeiladu y capel, yn hen lofft Hendrecoed, a manau eraill. Cangen ydyw y capel hwn, lle cynhelir ysgol boreu Sabbath, pregeth am ddau, a chyfarfod gweddi yn achlysurol ganol yr wythnos. Y trydydd capel, sef yr un presenol, a adeiladwyd yn 1866, ac yr oedd Cyfarfod Misol Mawrth y flwyddyn hono yn gyfarfod ei agoriad. Gall eistedd ynddo 600. Talwyd am y tir i adeiladu 380p. Yr oll o draul yr adeiladaeth oddeutu 2,300p. Trwy offerynoliaeth Mr. Williams, Ivy House, Dolgellau, talodd y Cambrian Railway Company 850p. am yr hen gapel—cytundeb a ddygwyd i derfyniad yn Chwefror, 1870.

Y mae eglwys Abermaw yn un o'r rhai hynaf sydd yn perthyn i gylch y Cyfarfod Misol. Ystyrid hi hefyd yn yr amser gynt yn eglwys barchus, bur, a dylanwadol. Yr oedd