Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/318

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn barchus am y perthynai iddi amryw bobl uwch eu sefyllfa na'r cyffredin; yr oedd yn bur, am y cadwai ddisgyblaeth i fyny, ac "nis gallai oddef y rhai drwg;" yr oedd yn ddylanwadol, am fod ei harswyd hi yn fawr ar y byd annuwiol. Tystiolaethir gan bobl hynaf y wlad fod yno grefyddwyr da, yn wyr ac yn wragedd, yn nechreu y ganrif hon. Er ei bod hi wedi ei ffurfio yn fuan wedi bod Henry Richard, yr ysgolfeistr o Sir Benfro, yn cadw ysgol yn Llanaber, yr amser y ceir rhestr o'r aelodau gyntaf ydyw yn nechreu y flwyddyn 1810. Nifer yr aelodau eglwysig y flwyddyn hono oedd, Meibion, 22, Merched, 50; cyfan, 72. Mae y rhif yn 1820 yn 95; ac yn 1840 yn 116. Araf oedd y cynydd yma fel ymhob man arall y blynyddoedd hyny. Yn y flwyddyn a nodwyd gyntaf, dechreuwyd cadw cof-restr o'r aelodau mewn llyfr pwrpasol, yr hwn a gedwir o hyny hyd yn awr. Yn y llyfr hwn am y blynyddoedd cyntaf, ceir rhai pethau o natur ddigrifol, megis, "I Lewis Morris tuag at bedoli ceffyl 2s. 6c." "William Roberts for mending boots, 5s. 6c." Pan y byddai aelod ieuanc wedi newid ei sefyllfa, ysgrifenid ar gyfer ei enw yn llyfr yr eglwys,-"priodi yn anrhydeddus." Byddai casgliad, yr hwn a elwid yn gasgliad bach, yn cael ei wneuthur ymysg y merched i gynorthwyo pregethwyr a ddelai heibio a fyddent mewn angen. Gwnelid hwn o law i law ymysg gwragedd parchusaf y dref, a llawer dilledyn a roddwyd ar ei bwys i'r llefarwyr y gwelid fod eu gwisg yn llwydach na'r cyffredin. I Moses Ellis y rhoddid y fraint i fyned o gwmpas i hel y casgliad hwn. Ar ol iddo ddychwelyd o'i daith gasglyddol un tro, cymerodd yr ymddiddan canlynol le rhyngddo â Mr. Griffith, Siop fawr:—

"Sut lwyddiant a gawsoch chwi?" ebe Mr. Griffith.

"Llwyddiant da, ond ambell i eithriad," oedd yr ateb.

"Fuoch chwi gyda Mrs. Meredith?"

"Do."