Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/319

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Fuoch chwi gyda hon a hon?"

"Do."

Ac yr oedd yr hen flaenor wedi llwyddo gyda phob un o'r gwragedd a enwyd. Eto yr oedd un eithriad.

"Fuoch chwi gyda hon a hon (gwraig pur gyfoethog?" "Do."

"Be ddeudodd hi?"

"Dweyd nad allai hi roi dim."

"Dear me, ddeudodd hi felly?"

"Do."

"Sut y deudodd hi?" gofynai Mr. Griffith bedair gwaith.

"Dweyd nad allai hi roi dim."

"Dear me, mae y brenin cybydd-dod wedi myned yn bell iawn i'w chalon hi."

Yr oedd cymeriadau hynod yn perthyn i'r eglwys, a chymerodd digwyddiadau le yma, a ystyrid yn awr yn rhyfedd, mewn cysylltiad â dygiad ymlaen yr achos, yn enwedig mewn blynyddoedd pell yn ol. Un o'r chwiorydd a enillasid i garu Iesu Grist yn dra ieuanc wrth wrando ar Mr. Charles yn pregethu-yr hon oedd yn nodedig am ei duwioldeb-a adroddai ei phrofiad wrth un o'r blaenoriaid yn y cyfarfod eglwysig, ymhen amser maith wedi iddi ddyfod at grefydd. Yn yr heol lle y preswyliai, yr oedd gwragedd wedi bod yn cweryla yn arw; ond rhedodd y chwaer hon i'w thŷ, a chlodd y drws, ac felly aeth yr ystorom drosodd heb ddim niwed iddi hi. Y noson ganlynol, yn y seiat, gofynai y blaenor iddi am air o brofiad. Ebai hithau, "Yr adnod hono ddaeth i'm meddwl gyda chryn nerth heddyw, 'Er gorwedd o honoch ymysg y crochanau, byddwch fel esgyll colomenod, wedi eu gwisgo âg arian, a'u hadenydd fel aur melyn.'" "Beth oeddych yn gael yn yr adnod?" ebe y blaenor. "Gweled fod y crochanau hyn yn rhai noble iawn, rhagor y crochanau duon